A85479:573
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Anfon am ryw Weinidog duwiol, neu Gristion profedig, ith gyfarwyddo di i osod dy Enaid mewn trefn, o ran dy fawr gyfnewidiad. Y cyngor hwn y mae 'r Apostol Jaco in ei roddi, canys medd ef, Jac. 5. 14. A oes neb in eich plith in glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto. A hyn a gynghorwn i ti ei wneuthur in y man cyntaf, heb ei oedi dan yr olâf, pan ddechrevo dy deal a'th goffadwriaeth di ballu, megis ac y mae arfer y rhan fwyaf, y rhai pan ddarfyddo ir Physygwr â hwynt, ai fod mewn rhan wedi eu rhoddi hwynt heibio, yna yr anfonant am Weinidog i ddechreu gŷd â hwynt, megis ped fai Weddi fer, neu ychydig eiriau o gyngor Ysprydol, in ddigon iw hebrwng ir Nefoedd.
II. Anfon am ryw Weinidog duwiol, neu Gristion profedig, ith gyfarwyddo di i osod dy Enaid mewn trefn, o ran dy fawr gyfnewidiad. Y cyngor hwn y mae 'r Apostol Jaco yn ei roddi, canys medd ef, Jac. 5. 14. A oes neb yn eich plith yn glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto. A hyn a gynghorwn i ti ei wneuthur yn y man cyntaf, heb ei oedi dan yr olâf, pan ddechreuo dy ddeall a'th goffadwriaeth di ballu, megis ac y mae arfer y rhan fwyaf, y rhai pan ddarfyddo ir Physygwr â hwynt, ai fod mewn rhan wedi eu rhoddi hwynt heibio, yna yr anfonant am Weinidog i ddechreu gŷd â hwynt, megis ped fai Weddi ferr, neu ychydig eiriau o gyngor Ysprydol, yn ddigon iw hebrwng ir Nefoedd.
III. Gwnâ dy oreu ar wneuthur, neu in hytrach ar adnewyddu dy heddwch gyd â Duw; canys er na ddylit oedi gwneuthur dy heddwch gydâ Duw tan (neu hid) dy Wely-marwolaeth, etto rhaid i ti y pride hynny ei adnewyddu ef mewn mod enwedigol, megis yr amser olaf ar sydd i ti iw wneuthur ef. Ir diben hwnnw,
III. Gwnâ dy oreu ar wneuthur, neu yn hytrach ar adnewyddu dy heddwch gyd â Duw; canys er na ddylit oedi gwneuthur dy heddwch gydâ Duw tan (neu hyd) dy Wely-marwolaeth, etto rhaid i ti y pryd hynny ei adnewyddu ef mewn modd enwedigol, megis yr amser olaf ar sydd i ti iw wneuthur ef. Ir diben hwnnw,