A85479:563
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Drachefn, pan welych di y Gweinidog in rhoddi y bara ar gwîn ir Cymmunwyr, yna cenfydd trwy lygad ffŷdd gariad Duw in rhoddi ei fab i bob Cymmunwr credadwy. Canys cyn wiried a bôd y Gweinidog in rhoddi y bara ar gwin, cyn wiried a hynny y mae Duw mewn gwirionedd in rhoddi Christ, ynghŷd a hôll ddonniau a llesáad ei farwolaeth ai ddioddefaint, megis Cymmod, Prynnedigaeth, Maddevant pechodau, &c. Canys nid oes yno Gyffelybiaeth in unic, and gwir ac uniawn osod Christ allan, megis wedi ei dory dross ein pechodau ni.
Drachefn, pan welych di y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwîn ir Cymmunwyr, yna cenfydd trwy lygad ffŷdd gariad Duw yn rhoddi ei fab i bob Cymmunwr credadwy. Canys cyn wiried a bôd y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwin, cyn wiried a hynny y mae Duw mewn gwirionedd yn rhoddi Crist, ynghŷd a hôll ddonniau a llesáad ei farwolaeth ai ddioddefaint, megis Cymmod, Prynnedigaeth, Maddeuant pechodau, &c. Canys nid oes yno Gyffelybiaeth yn unic, ond gwir ac uniawn osod Crist allan, megis wedi ei dorri dros ein pechodau ni.
II. Gweithred arall i ffydd iw harfer in Swpper yr Arglwydd, yw derbyn Jesus Grist. Canys y Credadyn wedi ⟨p. 127⟩iddo ganfod Christ â llygad ffydd tan yr elfennau oddiallan, a'r defodau rhagddywededig, yna y mae in ei dderbyn ef iw gallon mewn llawenydd a gorfoledd lawyer. Megis gan hynny ac yr wit ti in estyn allan law dy gorph i dderbyn y bara ar gwîn, estyn allan law dy ffydd i gymmeryd gafael ar Jesus Grist ac iw dderbyn, ac i orphywys arno ef megis am faddevant pechodau ymma, felly hefyd am fywyd tragwyddol ac jechydwriaeth ar ôl hyn. Oblegit ffydd yw 'r offeryn hwnnw drwy yr hwn yr ydym ni in derbyn Christ a'i holl ddoniau, fell y cynnygir hwy i ni in yr Efengyl, ac y selir hwy i ni in y Sacrament. Mae ffŷdd ir enaid, megis ac y mae y law ir corph, yr hyn a gynnygier i ddŷn o ran ei ddaioni, y law sydd barod iw dderbyn, a'r hyn a dderbynio y law in y mod hwnnw, sydd in eiddo dŷn ei hun. Fall hyn y mae Duw in cynnyg ei fab i ni, ffydd sy in perswadio 'r gallon o ewyllys da Duw i ddŷn, ac o'i wir fwriad ef ar wneuthur dŷn in gyfrannog o'i fab, ac ar hynny y mae 'n cymmeryd gafael arno, ac in ei dderbyn ef in eiddo ei hun, a Christ sydd eiddo ef mewn gwirionedd.