A85479:57
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Oddiwrth wiliadwriaeth ein gwrthwynebwr cyffredin y Diafol; Canys megis y mae 'r Apostol Petr in llefaru, Y mae eich gwrth-wynebwr y Diafol megis llew rhuddwy in rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Y mae pôb gair in bwysig, ac in cynwys ynddo rheswm enwedigol am wiliadwriaeth gristianogawl 1. Eich gwrthwynebwr yw efe, yr hwn a wnaiff i chwi yr holl aflwydd ⟨p. 11⟩ar a allo; am hynny byddwch wiliadwrus. 2. Ymma y gosodir ef allan wrth ei enw Diafol, yr hwn sy'n mynegi ei fôd ef in gyhuddwr, ac in ûn sy in ceisio pôb mantais ar a allo in eich erbyn, am hynny byddwch wiliadwrus. 3. Fe gosodir ef allan wrth ei Greulonder, trwy ei alw ef in Lew, je ac i chwanegu dychryndod, fe a'i gelwir ef in Llew rhuadwy, am hynny byddwch wiliadurus. 4. Fe gosodir ef allan wrth ei Ddiwydrwydd, a'r boen y mae ef in ei gymmeryd, Y mae ef in rhodio oddi amgylch, nid yw ef in eistedd in llonydd, eithr y mae ef in ddiorphwys i wneuthur drwg, am hynny byddwch wiliadwrus. 5. Fe gosodir ef allan wrth ei Gyfrwystra, gan geisio, hynny yw gan yspio ym mhôb lle i gael ei fantais oreu, am hynny byddwch wiliadwrus. 6. Wrth ei Ddiben a'i fwriad ystrywgar ef, yr hyn yw Destryw eneidiau dynion, canys y mae ef in rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Gan fôd gennym gan hynny y cyfryw Wrthwynebwr ac yw y Diafol, yr hwn sydd greulon, a chyfrwys, a maleisus, mae 'n perthyn i ni fôd in wiliadwrus arnom ein hunain.
1. Oddiwrth wiliadwriaeth ein gwrthwynebwr cyffredin y Diafol; Canys megis y mae 'r Apostol Petr yn llefaru, Y mae eich gwrth-wynebwr y Diafol megis llew rhuddwy yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Y mae pôb gair yn bwysig, ac yn cynwys ynddo rheswm enwedigol am wiliadwriaeth gristianogawl 1. Eich gwrthwynebwr yw efe, yr hwn a wnaiff i chwi yr holl aflwydd ⟨p. 11⟩ar a allo; am hynny byddwch wiliadwrus. 2. Ymma y gosodir ef allan wrth ei enw Diafol, yr hwn sy'n mynegi ei fôd ef yn gyhuddwr, ac yn ûn sy yn ceisio pôb mantais ar a allo yn eich erbyn, am hynny byddwch wiliadwrus. 3. Fe gosodir ef allan wrth ei Greulonder, trwy ei alw ef yn Lew, ie ac i chwanegu dychryndod, fe a'i gelwir ef yn Llew rhuadwy, am hynny byddwch wiliadurus. 4. Fe gosodir ef allan wrth ei Ddiwydrwydd, a'r boen y mae ef yn ei gymmeryd, Y mae ef yn rhodio oddi amgylch, nid yw ef yn eistedd yn llonydd, eithr y mae ef yn ddiorphwys i wneuthur drwg, am hynny byddwch wiliadwrus. 5. Fe gosodir ef allan wrth ei Gyfrwystra, gan geisio, hynny yw gan yspio ym mhôb lle i gael ei fantais oreu, am hynny byddwch wiliadwrus. 6. Wrth ei Ddiben a'i fwriad ystrywgar ef, yr hyn yw Destryw eneidiau dynion, canys y mae ef yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Gan fôd gennym gan hynny y cyfryw Wrthwynebwr ac yw y Diafol, yr hwn sydd greulon, a chyfrwys, a maleisus, mae 'n perthyn i ni fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain.