A85479:70
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nid wyfi in gwadu nad yw y goreu o ddynion, trwy weddillion y llygredigaeth sydd ynddynt, in ddarostyngedig ac in agored i feddyliau offer, trachwantus, godinebus, a balch, je weithiau i feddyliau cablaidd didduw; eithr y rhai hyn yw eu gofid a'u baich, in erbyn y rhai y maent in ymdrechu, ac am y rhai y maent in ddifrifol in erfyn am bardwn; ac am hynny ni roddir mo honynt in eu herbyn hwynt iw damnedigaeth.
Nid wyfi yn gwadu nad yw y goreu o ddynion, trwy weddillion y llygredigaeth sydd ynddynt, yn ddarostyngedig ac yn agored i feddyliau ofer, trachwantus, godinebus, a balch, ie weithiau i feddyliau cablaidd didduw; eithr y rhai hyn yw eu gofid a'u baich, yn erbyn y rhai y maent yn ymdrechu, ac am y rhai y maent yn ddifrifol yn erfyn am bardwn; ac am hynny ni roddir mo honynt yn eu herbyn hwynt iw damnedigaeth.
Wrth hyn chwi a welwch, fôd gwiliadwriaeth ar ein meddyliau in ran anghenrheidiol o dduwioldeb. A diammeu ydyw, nad yw hwnnw in dduwiol in ei weithredoedd, ar sy heb dduwioldeb in ei feddyliau. Y mae meddyliau in dangos beth yw dŷn, in gystal ac y mae ei eiriau a'i weithredoedd. Ith gynnorthwyo di in erbyn drwg feddyliau, cymmer hyn o gynghorion.
Wrth hyn chwi a welwch, fôd gwiliadwriaeth ar ein meddyliau yn ran anghenrheidiol o dduwioldeb. A diammeu ydyw, nad yw hwnnw yn dduwiol yn ei weithredoedd, ar sy heb dduwioldeb yn ei feddyliau. Y mae meddyliau yn dangos beth yw dŷn, yn gystal ac y mae ei eiriau a'i weithredoedd. Ith gynnorthwyo di yn erbyn drwg feddyliau, cymmer hyn o gynghorion.
I. Na chyd-ddŵg â'r offer a'r drwg feddyliau hynny, fy nail ai in codi oddiwrth dy gallon lygredig dy hun, neu a deflir i mewn iddi gan Satan. Fy meddwl i yw, nâd iddynt dreiglo yma a thraw in dy feddwl, na fyfyria arnynt gydâ digrifwch, canys os felly y gwnei, yr wit ti mewn perygl o gael dy faglu ganddynt.