A85479:575
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Edrych in ôl i ystod dy fuchedd gynt, ac atgofia ei amryw gyfeiliornadau ef; megis gwagedd dy feddyliau, mor offer a gweigion, mor gnawdol a halogedig a fuont; a hefyd ddiflasrwydd dy eiriau a'th ymadroddion, mor ddi-Dduw ac mor ddi Christ, je mor anfuddiol a fuont gan y ⟨p. 133⟩mwyaf: a hefyd anwiredd dy weithredoedd. Ac wrth dy holy dy hun ynghylch dy weithredoedd, adgofia, pa ddyledswyddau a esceulusaist, a pha Bechodau a wnaethost; ac hefyd ym mha fodd pechadurus y cyflawnaist sanctaidd Ddyledswyddau, y mod y bu dy Wasanaeth mwyaf crefyddol â chymmysc o Bechod ynddo. Cais redeg hefyd tros yr amryw Oedrannau oath einioes, ac ystyria pa Bechodau a bechaist in dy Febyd, pa ray in dy Jevengctid, a pha ray in dy gyflawn oedran.
1. Edrych yn ôl i ystod dy fuchedd gynt, ac atgofia ei amryw gyfeiliornadau ef; megis gwagedd dy feddyliau, mor ofer a gweigion, mor gnawdol a halogedig a fuont; a hefyd ddiflasrwydd dy eiriau a'th ymadroddion, mor ddi-Dduw ac mor ddi Crist, ie mor anfuddiol a fuont gan y ⟨p. 133⟩mwyaf: a hefyd anwiredd dy weithredoedd. Ac wrth dy holi dy hun ynghylch dy weithredoedd, adgofia, pa ddyledswyddau a esceulusaist, a pha Bechodau a wnaethost; ac hefyd ym mha fodd pechadurus y cyflawnaist sanctaidd Ddyledswyddau, y modd y bu dy Wasanaeth mwyaf crefyddol â chymmysc o Bechod ynddo. Cais redeg hefyd tros yr amryw Oedrannau oth einioes, ac ystyria pa Bechodau a bechaist yn dy Febyd, pa rai yn dy Ieuengctid, a pha rai yn dy gyflawn oedran.
Ac ynghŷd â nifer dy Bechodau, ystria eu gorthrwm amgylchiadau hwynt; megis pa fodd y pechaist in erbyn Duw grafol, Tâd caredigol, ac Arglwydd a Meistr haelionus; pa fodd y pechaist in erbyn rhybuddion Gweinidogion Duw, cynnhyrfiadau ei Yspryd ef, a cheryddon dy Gydwybod dy hun; in erbyn dioddefgarwch a hirymaros Duw, yr hyn a ddylasei dy arwain di i edifeirwch; in erbyn yr amryw addunedau ar addewidion a wnaethost i Dduw o newydd-deb buchedd, a gwell ufydddod. Dos ym mlaen in trymhau dy bechodau, nes i ti gael dy gallon mewn rhyw fesur wedi gweithio arni i ofidio a thristau am danynt; ac yna,