A85479:584
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwrthdd. 2. Mae fy Mhechodau mor aml o ran rhifedi, ac mor ddrygfawr o ran eu mâth, na fedrafi feddwl fod Christ in perthyn i mi, ac am hynny ni feiddiaf moi gymmhwyso ef, na lleshâd ei farwolaeth ai ddioddefaint attaf fy hun.
Gwrthdd. 2. Mae fy Mhechodau mor aml o ran rhifedi, ac mor ddrygfawr o ran eu mâth, na fedrafi feddwl fod Crist yn perthyn i mi, ac am hynny ni feiddiaf moi gymmhwyso ef, na lleshâd ei farwolaeth ai ddioddefaint attaf fy hun.
Atteb. Po mwyaf pechadurus wit ti in dy deal a'th deimlad dy hun, cymmhwysach wit ti i ymwasgu ag Jesus Grist, ac i gymmhwyso Haeddedigaethau ei farwolaeth ef attad dy hwn; canys yngrasol wahoddiad Christ, nid ydym ni in cael un gynneddfen arall wedi ei rhoddi i fewn, and teimlad o bechod, Deuwch attafi bawb ac y sydd in flinderog, ac in llwythog. ac mi a esmwythaf arnoch, Mat. 11. 28. Lle mae y rhai a wahoddir at Grist, in gyfryw ray ac sy in deimladwy o'u pechodau, ac am hynny ydynt in griddfan tan eu baich a'u pwys hwynt, megis ac y mae 'r gair in y Groec in briodol in arwyddocau. Ac in Luc. 5. 32. Christ sy in addef, Na ddaeth ef i alw rhai cyfiawn and pechaduriaid i edifeirwch; nid y rhai oedd gyfiawn in eu tŷb eu hunain, and y rhai oeddynt in Bechaduriaid, in eu deal a'u meddwl eu hunain in wir deimladwy o'u pechodau; in gymmaint ac may teimlad o bechod yw'r unig gynneddfen angenrheidiol o ran cymmhwyso atom Jesus Grist.
Atteb. Po mwyaf pechadurus wyt ti yn dy ddeall a'th deimlad dy hun, cymmhwysach wyt ti i ymwasgu ag Jesu Grist, ac i gymmhwyso Haeddedigaethau ei farwolaeth ef attad dy hwn; canys yngrasol wahoddiad Crist, nid ydym ni yn cael un gynneddfen arall wedi ei rhoddi i fewn, ond teimlad o bechod, Deuwch attafi bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog. ac mi a esmwythaf arnoch, Mat. 11. 28. Lle mae y rhai a wahoddir at Grist, yn gyfryw rai ac sy yn deimladwy o'u pechodau, ac am hynny ydynt yn griddfan tan eu baich a'u pwys hwynt, megis ac y mae 'r gair yn y Groec yn briodol yn arwyddocau. Ac yn