A85479:597
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Gosod dy ufydd-dod ar waith, drwy dy roddi dy hun i fynu i Ewyllys Duw, i fôd wrth ei drefniad ef, pan bynnac ai i fywyd ai i farwolaeth; fell na ddylit ti fôd in anfodlon i farw pan alwo Duw di, felly ni ddylit ti chwaith fod in rhŷ awyddus i farw cyn iddo dy alw; nid rhŷdd i ti chwennych Marwolaeth o ran anfodlonrwydd meddwl, oblegid rhyw drueni neu gystuddiau sydd arnat ti in bresennol; nagê, ni eli di ddymuno marw in bendant o ran chwant i gael ymwared oddiwrth dy bechodau, a bôd gyd â Christ, eithr rhaid i hynny fod gyd ag ymddarostyngiad i Ewyllys Duw, os gwêl ef hynny in addas ac in gymmwys i ti; er i Paul wybod may lawyer gwell oedd iddo ef farw na byw, etto nid oedd ef in chwennych marw in hollawl, and trwy ymostwng i Ewyllys Duw.
3. Gosod dy ufydd-dod ar waith, drwy dy roddi dy hun i fynu i Ewyllys Duw, i fôd wrth ei drefniad ef, pa un bynnac ai i fywyd ai i farwolaeth; fel na ddylit ti fôd yn anfodlon i farw pan alwo Duw di, felly ni ddylit ti chwaith fod yn rhŷ awyddus i farw cyn iddo dy alw; nid rhŷdd i ti chwennych Marwolaeth o ran anfodlonrwydd meddwl, oblegid rhyw drueni neu gystuddiau sydd arnat ti yn bresennol; nagê, ni elli di ddymuno marw yn bendant o ran chwant i gael ymwared oddiwrth dy bechodau, a bôd gyd â Christ, eithr rhaid i hynny fod gyd ag ymddarostyngiad i Ewyllys Duw, os gwêl ef hynny yn addas ac yn gymmwys i ti; er i Paul wybod mai llawer gwell oedd iddo ef farw na byw, etto nid oedd ef yn chwennych marw yn hollawl, ond trwy ymostwng i Ewyllys Duw.
VII. Bid in fynych in darllen yr Scrythyrau Sanctaidd, neu par eu darllen kwynt i ti in fynych, canys yno y cei di,
VII. Bydd yn fynych yn darllen yr Scrythyrau Sanctaidd, neu par eu darllen kwynt i ti yn fynych, canys yno y cei di,
1. Ecsamplau o drugaredd Dduw a ddangoswyd ir cystuddiol.