A85479:610
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Cydfod a chyttundeb oddiallan. Hyn a ddylai fôd, cyn belled ac y mae 'n bossibl, rhyngom â phâwb, Heb. 12. 14. Eithr in enwedigol rhwng Gŵr a Gwraig, y rhai a gydgyssylltwyd mor gyfagos. Canys heb fod cydfod a chyttundeb rhwng Gwr a Gwraig, pa gyssur a ddichon na'r nail na'r llall ei gael in ei hannedd? Y gwirionedd yw, fôd pob un in byw in fwy neu in lay comfforddus in ei dŷ, wrth fell y mae 'r cydfod ar cyttundeb yno.
II. Cydfod a chyttundeb oddiallan. Hyn a ddylai fôd, cyn belled ac y mae 'n bossibl, rhyngom â phâwb, Heb. 12. 14. Eithr yn enwedigol rhwng Gŵr a Gwraig, y rhai a gydgyssylltwyd mor gyfagos. Canys heb fod cydfod a chyttundeb rhwng Gwr a Gwraig, pa gyssur a ddichon na'r naill na'r llall ei gael yn ei hannedd? Y gwirionedd yw, fôd pob un yn byw yn fwy neu yn llai comfforddus yn ei dŷ, wrth fel y mae 'r cydfod ar cyttundeb yno.
O ran cynnal cyttundeb in well rhwng Gŵr a Gwraig, cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
O ran cynnal cyttundeb yn well rhwng Gŵr a Gwraig, cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
1. Rhoddwch gais ar ddarostwng a churo i lawr bôb gwynniau o gynddaredd, y rhai sy in arferol o fod in achlysur o anghydfod ac ymryson; in enwedigol pan fyddo ûn mewn gwŷn, fe fydd in ddoethineb ir llall arfer ymynedd, a dangos yspryd addfwynaidd; canys pan yw'r ddau in boethion ac in ddiglon ar unwaith, yno y mae'r tân o gynnen in debyg i gynnhyrchu ir cyfryw fflam ar na ddiffoddo in ddiswtta. Ac am hynny myfi a orchymynaf y rheol hon i bobl briodol, I ochelyd bod ill dau in dig a'r unwaith, eithr in hytrach bydded ir nail fôd ir llall megis Telyn Dafydd, i lonyddu cynddaredd Saul.