A85479:67
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Ystyriwch, fôd yr Arglwydd mor fanwl in dal sulw ar bôb meddyliau pechadurus oddifewn, ac y mae ef ar weithredoedd pechadnrus oddiallan. Mae ef in holl-wybodus, ac a edwyn bôb peth; je efe yw profwr a chwiliwr ein calonnau, ac felly y mae ef in gydnabyddus a phôb meddwl offer, balch, godinebus, ac annuwiol, ar sy in ein calonnau ni, er nad yw dynion in gwybod oddi wrthynt hwy. Ebe Ddafydd wrth Dduw, Psal. 139. 2. Deelli fy meddwl o bell, hynny yw, er bôd Duw ym mhell in y nefoedd, etto y mae efe cyn belled in-gwybod pôb peth, ac y mae hid in oed ein meddyliau ni in hyspys iddo fe: neu ynte yr ystyr yw, y mae ein bwriadau ni, ym mhell cyn iddynt gael eu hymddwyn in y meddwl, in gydnabyddus iddo fe.
3. Ystyriwch, fôd yr Arglwydd mor fanwl yn dal sulw ar bôb meddyliau pechadurus oddifewn, ac y mae ef ar weithredoedd pechadnrus oddiallan. Mae ef yn holl-wybodus, ac a edwyn bôb peth; ie efe yw profwr a chwiliwr ein calonnau, ac felly y mae ef yn gydnabyddus a phôb meddwl ofer, balch, godinebus, ac annuwiol, ar sy yn ein calonnau ni, er nad yw dynion yn gwybod oddi wrthynt hwy. Ebe Ddafydd wrth Dduw, Psal. 139. 2. Deelli fy meddwl o bell, hynny yw, er bôd Duw ym mhell yn y nefoedd, etto y mae efe cyn belled yn-gwybod pôb peth, ac y mae hyd yn oed ein meddyliau ni yn hyspys iddo fe: neu ynte yr ystyr yw, y mae ein bwriadau ni, ym mhell cyn iddynt gael eu hymddwyn yn y meddwl, yn gydnabyddus iddo fe.
4. Ystyriwch, y barna 'r Arglwydd ni ar y did olaf wrth ein meddyliau, in gystal ac wrth ein geiriau a'n gweithredoedd, Y mae Duw wedi gosod diwrnod, in yr hwn yr eglura fa fwriadau y calonnau, ac y barna fe ddirgeloedd dymon trwy Jesus Grist, I Cor. 4. 5. Rhuf. 2. 16. Lle, wrth ddirgeloedd dynion, y gellir deal, megis eu pechodau hwynt oddiallan, a wnaethant hwy in ddirgel, felly hefyd ddirgel feddyliau eu calonnau oddifewn. Yno fe fydd rhaid i ni roddi cyfrif i Dduw am ein drwg feddyliau, in gystal ac am ein drwg weithredoedd; je am ein hofer a'n segur feddyliau, thou gystal ac am ein hofer a'n segur eiriau. Yno yr heidiau hynny o'n meddyliau offer, coeg, godinebus, bydol, a ddatcuddir, ac a wneir in amlwg, er cywilydd tragywyddol i ni gar bron Duw, Angelion a dynion, heb wîr a diffuant edifeiwch.