A85479:80
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr ymadroddion llygredig y ddylem ni in ofalus eu gochelyd ydynt o amryw fâth.
Yr ymadroddion llygredig y ddylem ni yn ofalus eu gochelyd ydynt o amryw fâth.
I. Y cyntaf yw Tyngu anghyfreithlon, yr hyn sydd dair ford in enwedigol, 1. Pan yw dynion in tyngu in anwir, neu megis ac y dywedwn in tyngu anudon. 2. Pan dyngont in ddrygionus. 3. Pan dyngont in fyrbwyll.
I. Y cyntaf yw Tyngu anghyfreithlon, yr hyn sydd dair ffordd yn enwedigol, 1. Pan yw dynion yn tyngu yn anwir, neu megis ac y dywedwn yn tyngu anudon. 2. Pan dyngont yn ddrygionus. 3. Pan dyngont yn fyrbwyll.
1. Y sawl a dyngant in anwir, y rhai a alwn ni Anudonwŷr, yw 'r cyfryw ray ar sy 'n siccrhau dim drwy lw, in erbyn eu gwybodaeth; neu sy in tyngu ar wneuthur peth nid yw in eu brŷd; neu y maent ar y cyntaf ar fedr ei wneuthur ef, etto ar ôl hynny ydynt ddiofal ac esceulus iw gyflawni ef.
1. Y sawl a dyngant yn anwir, y rhai a alwn ni Anudonwŷr, yw 'r cyfryw rai ar sy 'n siccrhau dim drwy lw, yn erbyn eu gwybodaeth; neu sy yn tyngu ar wneuthur peth nid yw yn eu brŷd; neu y maent ar y cyntaf ar fedr ei wneuthur ef, etto ar ôl hynny ydynt ddiofal ac esceulus iw gyflawni ef.