A85479:706
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Peri darllen yr Scrythyrau in fynych in y Teulu. Yr ydym ni in darllen ddarfod gorchymmyn i bobl Israel dan y Gyfraith scrifennu geiriau yr Arglwydd âr bŷst eu Tai, fell y gelid eu darllen hwy in fynych gan bawb o fewn y Tŷ. Deut. 6. 6, 9. Ar Apostol Paul a ddywaid, Preswylied Gair Christ ynoch. Col. 3. 16. Wrth Air Christ y mae'r Apostol in meddwl Athrawiaeth yr Efengyl, yr hon a gyhoeddwyd gan Grist, ac sy in gynnwysedig in y Testament Hên a'r Newydd. Preswylied yr gair hwn, medd yr Apostol, ynoch, hynny yw, bod in ymarfer lawyer in darllen y gair, megis in eich Stefyll, felly in eich Teuluoedd; neu megis ac y mae Calvin▪ in ei ddeongli, Gwnewch y Gair in gydnabyddus â chwi, drwy roddi a gwneuthur iddo groeso in eich teulu. And ysywaeth! pa ddieithrad yw'r Gair ir rhan fwyaf o Deuluoedd? pa mor anfynych y darllennir ef in ei plith hwynt? Os uffern a fydd y tŷ lle ni ddarllenner yr Scrythyrau, Megis ac y dywaid Luther, Och pa nifer o deiau sydd megis cynnifer o uffernau, o ddiffyg darllen yr Scrythyrau?
2. Peri darllen yr Scrythyrau yn fynych yn y Teulu. Yr ydym ni yn darllen ddarfod gorchymmyn i bobl Israel dan y Gyfraith scrifennu geiriau yr Arglwydd âr bŷst eu Tai, fel y gellid eu darllen hwy yn fynych gan bawb o fewn y Tŷ. Deut. 6. 6, 9. Ar Apostol Paul a ddywaid, Preswylied Gair Crist ynoch. Col. 3. 16. Wrth Air Crist y mae'r Apostol yn meddwl Athrawiaeth yr Efengyl, yr hon a gyhoeddwyd gan Grist, ac sy yn gynnwysedig yn y Testament Hên a'r Newydd. Preswylied yr gair hwn, medd yr Apostol, ynoch, hynny yw, bod yn ymarfer llawer yn darllen y gair, megis yn eich Stefyll, felly yn eich Teuluoedd; neu megis ac y mae Calvin▪ yn ei ddeongli, Gwnewch y Gair yn gydnabyddus â chwi, drwy roddi a gwneuthur iddo groeso yn eich teulu. Ond ysywaeth! pa ddieithrad yw'r Gair ir rhan fwyaf o Deuluoedd? pa mor anfynych y darllennir ef yn ei plith hwynt? Os uffern a fydd y tŷ lle ni ddarllenner yr Scrythyrau, Megis ac y dywaid Luther, Och pa nifer o deiau sydd megis cynnifer o uffernau, o ddiffyg darllen yr Scrythyrau?