A85479:719
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Ufydd-dod yw yr hyn y mae 'r Apostol St Paul in ei fynych ddirio ar Weision, megis Pen a phrif ddyledswydd. Ephes. 6. 5. 6. Call. 3. 22. Ac mewn gwirionedd nid oes neb or rhai Iselrâdd in fwy rhwym i ufudd-dod nâ Gweision. Eich ufudd-dod chwi (Weision) sydd raid ei egluro mewn daubeth.
I. Ʋfydd-dod yw yr hyn y mae 'r Apostol St Paul yn ei fynych ddirio ar Weision, megis Pen a phrif ddyledswydd. Ephes. 6. 5. 6. Cal. 3. 22. Ac mewn gwirionedd nid oes neb or rhai Iselrâdd yn fwy rhwym i ufudd-dod nâ Gweision. Eich ufudd-dod chwi (Weision) sydd raid ei egluro mewn dau beth.
1. Drwy ufyddhau in brysur i orchymmyn eich Meistred, Canys mewn gwirionedd priodol waith gwâs ydyw gwrando ar eirchion ei feistr, ac ufyddhau in brysur iddynt.
1. Drwy ufyddhau yn brysur i orchymmyn eich Meistred, Canys mewn gwirionedd priodol waith gwâs ydyw gwrando ar eirchion ei feistr, ac ufyddhau yn brysur iddynt.
2. Drwy ddiodilef argyoeddion a cheryddon in oddefgar, jeer gwneuthur y cerydd ar gam, heh achos gyfiawn, yr hyn y mae 'r Apostol Petr in ei ofyn in eglur gan Weision, canys medd efe, 1 Pet. 2. 18, 19, 20. Y gweision byddwch ddarostyngedig gyd â phôb ofn, i'ch Meistred, nid in unic ir rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas befyd; canys hyn sydd rasol os yw nêb o herwydd cydwybod i Dduw in dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os a chwi in gwncuthur in dda, ac in dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. Ac os dylid dwyn in oddefgar geryddon neu gospedigaethau anghyfion, yna in fwy o lawyer argyoeddion anghyfion. Eithr os bid yr argyoeddiad neu 'r cerydd in gyfion, yna y dylech chwi in brysur wellhau a diwygio y pethau am y rhai ich argyoedder neu ich cerydder chwi in gyfiawn. O ran y Môdd y mae i Ufudd-dod Gweision fôd, yr Apostol a'i gesyd ar lawr mewn amryw ymadroddion: Megis,