A85479:85
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Tyngu in fyrbwyll yw tyngu mewn ysgafnder, ac in fynych in ein hymadrodd cyffredinol. Hwa, er ei fod in bechod cynnefinol a chyffredin, ac in ddiau in rhy gynnefinol a chyffredin, er hynny y mae ef in bechod o'r echryslonaf, ac in bechod in crôchlefain ynghlustiau Duw am Dialled. Brynti y pechod ymma sy in ymddangos,
3. Tyngu yn fyrbwyll yw tyngu mewn ysgafnder, ac yn fynych yn ein hymadrodd cyffredinol. Hwa, er ei fod yn bechod cynnefinol a chyffredin, ac yn ddiau yn rhy gynnefinol a chyffredin, er hynny y mae ef yn bechod o'r echryslonaf, ac yn bechod yn crôchlefain ynghlustiau Duw am Ddialedd. Brynti y pechod ymma sy yn ymddangos,
I. In gymmaint. a. bôd dynion drwy hynny in cymmeryd enw Duw in offer, yr hyn sydd droseddiad ar y trydydd Gorchymmyn. In awr fe gymmerir enw Duw in offer, pan ydyw nêb in ei arfer ef in afreidiol, heb un achos cyfiawn, in erbyn yr hyn y bygythir barnedigaeth, in y geiriau hyn, Nid dievog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef in offer, hynny yw, ni chaiff ef mor diangc in ddigosp.
I. Yn gymmaint. a. bôd dynion drwy hynny yn cymmeryd enw Duw yn ofer, yr hyn sydd droseddiad ar y trydydd Gorchymmyn. Yn awr fe gymmerir enw Duw yn ofer, pan ydyw nêb yn ei arfer ef yn afreidiol, heb un achos cyfiawn, yn erbyn yr hyn y bygythir barnedigaeth, yn y geiriau hyn, Nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer, hynny yw, ni chaiff ef mor diangc yn ddigosp.
2. Tyngu in ein hymddiddanion cyffredin yw lifrai y Diafol, a nôd o ddŷn halogedig, Preg. 9. 2. Y mae Solomon in ei wneuthur in nôd siccr o ddŷn duwiol, ei fôd in ofni llw, ac o ddŷn drygionus ac halogedig, ei fôd heb ofni llw. A gwir yw, may da y dicnon tyngu cynredin fod ⟨p. 18⟩