A95346:165
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mae 'n peri im calon i grynu o'm mewn, feddwl, á pha lefain yr ymdrechei'r Eneidiau damnedig hynny â Duw, a'r môdd y rhuent hwy allan [O praw ni unwaith drachefn] pettai ganthynt and yr achlysur lleiaf, o Obaith. Eithr ni bŷdd i hynny mor bôd; ni all mor bôd: ⟨p. 63⟩Hwy a gowsant ei dŷdd, ac ni fynnent ei adna bod: ni allant hwy golly ei hamser ai gael hefyd. Hwy a gowsant Arweinwyr ffyddlon, ac nis dilynent hwynt: Hwy a gowsant Athrawon, and ni fynnent ddysgu: Rhaid i lŵch eu traed hwynt dystiolaethu in eu herbyn hwy, oblegyd nas gall eu gwaith in ufyddgar groesawu eu Cennadwri hwynt dystiolaethu dim drostynt. Hîr y disgwyliodd Christ trwy ymmyneddol gynnygion o'i waed a'i Yspryd; Hîr a difrifol y cynnygiwyd ei Ras ef iddynt, and ni wneid cyfrif o hono, ac nis derbynnid. Ac nis gallant hwy lwyr wrthod Christ, ac etto cael Christ, neu wrthod ei drugaredd ef, ac etto bôd in gadwedig trwyddi. Yr hwn a fynnasei anfon Lazarus oddiwrth y Meirw, i rybuddio ei frodyr anghredadwy ar y ddaiar, a roesei in ddiammeu ei frŷd ei hunan in egniol ar wellháu, pe cowsei ef fôd unwaith ychwaneg tan brawf: jê daered y buassei hwnnw in ymbil am y cyfryw brofiad, yr hwn a ymbiliod cyn dosted am ddefnyn o ddwfr Luc. 16. Eithr och fŷth! mae 'n rhaid cau y cyfryw fafnau in dragywydd â [Choffâ i ti dderbyn dy wynfyd in dy fywyd. adn. 25.]
Mae 'n peri im calon i grynu o'm mewn, feddwl, á pha lefain yr ymdrechei'r Eneidiau damnedig hynny â Duw, a'r môdd y rhuent hwy allan [O praw ni unwaith drachefn] pettai ganthynt ond yr achlysur lleiaf, o Obaith. Eithr ni bŷdd i hynny mor bôd; ni all mor bôd: ⟨p. 63⟩Hwy a gowsant ei dŷdd, ac ni fynnent ei adna bod: ni allant hwy golli ei hamser ai gael hefyd. Hwy a gowsant Arweinwyr ffyddlon, ac nis dilynent hwynt: Hwy a gowsant Athrawon, ond ni fynnent ddysgu: Rhaid i lŵch eu traed hwynt dystiolaethu yn eu herbyn hwy, oblegyd nas gall eu gwaith yn ufyddgar groesawu eu Cennadwri hwynt dystiolaethu dim drostynt. Hîr y disgwyliodd Crist trwy ymmyneddol gynnygion o'i waed a'i Yspryd; Hîr a difrifol y cynnygiwyd ei Ras ef iddynt, ond ni wneid cyfrif o hono, ac nis derbynnid. Ac nis gallant hwy lwyr wrthod Crist, ac etto cael Crist, neu wrthod ei drugaredd ef, ac etto bôd yn gadwedig trwyddi. Yr hwn a fynnasei anfon Lazarus oddiwrth y Meirw, i rybuddio ei frodyr anghredadwy ar y ddaiar, a roesei yn ddiammeu ei frŷd ei hunan yn egniol ar wellháu, pe cowsei ef fôd unwaith ychwaneg tan brawf: iê daered y buassei hwnnw yn ymbil am y cyfryw brofiad, yr hwn a ymbiliod cyn dosted am ddefnyn o ddwfr