A95346:152
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wrth fôd marwoldeb dŷn in brifdestyn Solomon in y bennod hon, ac wrth ddal-sulw, nad yw doethineb a duwioldeb in rhyddhau dynion oddiwrth farwolaeth; Y mae efe in gyntaf in dangos, nas gwyddis Cariad neu Gâs Duw ir nail ddŷn rhagor i'r llall, wrth ei waith ef in ei trîn hwynt ymma, lle y mae pob peth in ystod gyffredinol rhagluniaeth in dyfod yr un ffunyd i bawb. Y pechod cyffredinol a ddûg farwolaeth i mewn megis Cospedigaeth gyffredinol; yr hon sydd in gosod pob peth in gyd-wastad, ac in dibennu holl ddibennion, gorchwylion, a mwyniant y bywyd hwn, ir dâ a'r drwg; A'r Cyfiawnder a wnaiff y gwahaniaeth ni amlygir in y bŷd ymma in gyffredinol. Fe dybygei Loddestwr neu anghredadyn fod Solomon ymma in dadleu tros eu matter annynawl annuwiol hwynt. ⟨p. 54⟩Eithr nid am ddarfodedigaeth neu ddiben ar fywyd, neu weithrediadau, neu fwyniant yr Enaid y mae ef in sôn, fell pe nas bay ûn bywyd i ddyfod, neu enaid dŷn heb fôd in anfarwol; And am ddarfodedigaeth neu ddiben ar holl weithrediau, anrhydedd a dyfyrrwch y bywyd hwn, yr hwn i'r dâ, na 'r drwg ni bid mwyach. Nid oes iddynt mwy yma ddim gwobr: eu Coffadwriaeth hwynt ymma a anghofir: Nid oes ganthynt bŷth mwyach gyfran mewn dim ar a wnelir tan haul, adnod 5. 6.
WRth fôd marwoldeb dŷn yn brifdestyn Solomon yn y bennod hon, ac wrth ddal-sulw, nad yw doethineb a duwioldeb yn rhyddhau dynion oddiwrth farwolaeth; Y mae efe yn gyntaf yn dangos, nas gwyddis Cariad neu Gâs Duw ir naill ddŷn rhagor i'r llall, wrth ei waith ef yn ei trîn hwynt ymma, lle y mae pob peth yn ystod gyffredinol rhagluniaeth yn dyfod yr un ffunyd i bawb. Y pechod cyffredinol a ddûg farwolaeth i mewn megis Cospedigaeth gyffredinol; yr hon sydd yn gosod pob peth yn gyd-wastad, ac yn dibennu holl ddibennion, gorchwylion, a mwyniant y bywyd hwn, ir dâ a'r drwg; A'r Cyfiawnder a wnaiff y gwahaniaeth ni amlygir yn y bŷd ymma yn gyffredinol. Fe dybygei Loddestwr neu anghredadyn fod Solomon ymma yn dadleu tros eu matter annynawl annuwiol hwynt. ⟨p. 54⟩Eithr nid am ddarfodedigaeth neu ddiben ar fywyd, neu weithrediadau, neu fwyniant yr Enaid y mae ef yn sôn, fel pe nas bai ûn bywyd i ddyfod, neu enaid dŷn heb fôd yn anfarwol; Ond am ddarfodedigaeth neu ddiben ar holl weithrediau, anrhydedd a dyfyrrwch y bywyd hwn, yr hwn i'r dâ, na 'r drwg ni bydd mwyach. Nid oes iddynt mwy yma ddim gwobr: eu Coffadwriaeth hwynt ymma a anghofir: Nid oes ganthynt bŷth mwyach gyfran mewn dim ar a wnelir tan haul, adnod 5. 6.