A95346:213
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 2. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Grist? Tros yr hwn a wnaeth cymmaint erofi? yr hwn a fu fyw mor ddichlyn, a ufyddhaodd mor berpheithlawn; a rodiodd mor ddidramgwydd a llariaidd; gan ddirmygu pôb abwyd, braint, a golud bydol? yr hwn a'm carodd hid angeu, ac sy in cynnyg i mi ei holl ddoniau in rhâd, ac a fynnei fy nwyn i ogoniant tragywyddol? Ai 'r egni diofal, oeraidd, trwmhyrddig hwn yw 'r goreu a allafi i dalu yr echwyn am yr holl Drugaredd hon?
Cwest. 2. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Grist? Tros yr hwn a wnaeth cymmaint erofi? yr hwn a fu fyw mor ddichlyn, a ufyddhaodd mor berpheithlawn; a rodiodd mor ddidramgwydd a llariaidd; gan ddirmygu pôb abwyd, braint, a golud bydol? yr hwn a'm carodd hyd angeu, ac sy yn cynnyg i mi ei holl ddoniau yn rhâd, ac a fynnei fy nwyn i ogoniant tragywyddol? Ai 'r egni diofal, oeraidd, trwmhyrddig hwn yw 'r goreu a allafi i dalu yr echwyn am yr holl Drugaredd hon?
Cwest. 3. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw fy Jechydwriaeth in wobrwy? pan yw y Nefoedd ac Uffern in sefyll in fawr ar y peth? a mi in gwybod hyn ym mlaenllaw, ac y gallwyf welled in nrŷch yr Yscrythyrau sanctaidd, beth a baratowyd ir Dyfal ac i'r Diofal, a pha waith sŷdd, ac a fŷdd in dragywydd in y Nefoedd ac in Uffern ⟨p. 94⟩ar y cyfrifion hyn? Oni allwn ni ychwaneg, petteu fy nhŷ ar dân, neu fy ystâd, fy hoedl, neu fy'nghyfaill mewn perigl, nag yr wŷf in ei wneuthur dross fy Jechydwriaeth?
Cwest. 3. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw fy Iechydwriaeth yn wobrwy? pan yw y Nefoedd ac Vffern yn sefyll yn fawr ar y peth? a mi yn gwybod hyn ym mlaenllaw, ac y gallwyf weled yn nrŷch yr Yscrythyrau sanctaidd, beth a baratowyd ir Dyfal ac i'r Diofal, a pha waith sŷdd, ac a fŷdd yn dragywydd yn y Nefoedd ac yn Vffern ⟨p. 94⟩ar y cyfrifion hyn? Oni allwn ni ychwaneg, petteu fy nhŷ ar dân, neu fy ystâd, fy hoedl, neu fy'nghyfaill mewn perigl, nag yr wŷf yn ei wneuthur dros fy Iechydwriaeth?