A95346:233
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Hwy a fynnent i ni oll ymddirywio o fod in Gristianogion ac in ddynion, fell pe na bay un bywyd i ddyfod, neu fell ped fai ein Rheswm a'n holl swyddgyneddfau wedi eu rhoddi i ni in offer. Canys oni roddwyd hwynt i ni o ran petheu mwy nâ holl freintiau a difyrrwch y bŷd, maent in offer, neu in waeth; ac nid yw bywyd dŷn and breuddwyd a thrueni. Oni byddei yr anifall in lay gresynol, os hyn fyddei y cwbl?
5. Hwy a fynnent i ni oll ymddirywio o fod yn Gristianogion ac yn ddynion, fel pe na bai un bywyd i ddyfod, neu fel ped fai ein Rheswm a'n holl swyddgyneddfau wedi eu rhoddi i ni yn ofer. Canys oni roddwyd hwynt i ni o ran petheu mwy nâ holl freintiau a difyrrwch y bŷd, maent yn ofer, neu yn waeth; ac nid yw bywyd dŷn ond breuddwyd a thrueni. Oni byddei yr anifall yn llai gresynol, os hyn fyddei y cwbl?
6. Waeled prîs y mae y Cainiaid hyn in ei roddi ar enaid anfarwol dŷn, y rhai a dybiant na thâl ef cymmaint o ymyrraeth, a gofalus ufydd-dod i gyfreithiau Christ? nay thâl ef chwaith cymmaint ac a wnant hwy eu hunain er mwyn ei bryntion bechodau a'u cnawd darfodedig? and a fynnent i ni fod mor ynfyd, a gwerthu y nef a'n heneidiau ein hunain, am ychydig seguryd ac esmwythdra pechadurus.
6. Waeled prîs y mae y Cainiaid hyn yn ei roddi ar enaid anfarwol dŷn, y rhai a dybiant na thâl ef cymmaint o ymyrraeth, a gofalus ufydd-dod i gyfreithiau Crist? nai thâl ef chwaith cymmaint ac a wnant hwy eu hunain er mwyn ei bryntion bechodau a'u cnawd darfodedig? ond a fynnent i ni fod mor ynfyd, a gwerthu y nef a'n heneidiau ein hunain, am ychydig seguryd ac esmwythdra pechadurus.
7. Y gelynion hyn i Sancteiddrwydd, a fynnent i ddynion gymmeryd eu trugareddau in lle yr hyn sydd in niwaid iddynt, a'u bendithion mwyaf in faich ac in blâ iddynt, a rhedeg i uffern i gael ymwared rhagddynt. Och din a wyddost di Beth yw Sancteiddrwydd? a pha beth yw cael nesau at Dduw? Meddaf i ti, prawf yw y mlaenllaw o'r nefoedd ar y ddaiar: Y Gogoniant goruchaf, a'r difyrrwch pereiddiaf, a'r llesâd pennaf i'r enaid. A wit ti in ofni cael gormod o hyn? Pa beth,