A95346:220
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 9. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw siccr gennyf na allaf wneuthur gormod, ac in siccr gennyf nad oes dim arall in rhagori ar hyn? ac may hyn yr wyfi in byw oi herwydd? a bod bywyd er mwyn gwaith; ac in tueddu at hynny; (a bod bywyd sanctaidd er mwyn gwaith sanctaidd) ac may gwell yw bôd heb fyw, na bod heb gyrrhaeddyd dibennion bywyd; pan yw gennyf gynnifer o elynion diludded: pan yw diogi in beryglus i mi, ac in fantais i'm gelyn, pan wnn i fod llwyrfryd a grymmus ddiwidrwydd mor angenrheidiol, nad yw'r cwbl heb hynny and colled? A wrthwynebir profedigaethau, ⟨p. 96⟩a ymwedir â'r hunan, a farweiddir trachwant, a ddofir ac a ddarostyngir dymuniadau cnawdol, a deflir pechod allan, a gynnhelir sanctaidd gymmundeb â'r nefoedd trwy ddiogi a syrthni? A jawn drefnir teuluoedd, a jawn lywodraethir Eglwys, Dinas neu wlâd? A droir ac a ged wir pechaduriaid diofal (yr wyfi in rhwymedig iw cymmorth) drwy eistedd in fy un lle, a thrwy ryw egnion oerion a digalon?
Cwest. 9. A allafi wneuthur dim ychwaneg, pan yw siccr gennyf na allaf wneuthur gormod, ac yn siccr gennyf nad oes dim arall yn rhagori ar hyn? ac mai hyn yr wyfi yn byw oi herwydd? a bod bywyd er mwyn gwaith; ac yn tueddu at hynny; (a bod bywyd sanctaidd er mwyn gwaith sanctaidd) ac mai gwell yw bôd heb fyw, na bod heb gyrrhaeddyd dibennion bywyd; pan yw gennyf gynnifer o elynion diludded: pan yw diogi yn beryglus i mi, ac yn fantais i'm gelyn, pan wnn i fod llwyrfryd a grymmus ddiwidrwydd mor angenrheidiol, nad yw'r cwbl heb hynny ond colled? A wrthwynebir profedigaethau, ⟨p. 96⟩a ymwedir â'r hunan, a farweiddir trachwant, a ddofir ac a ddarostyngir dymuniadau cnawdol, a deflir pechod allan, a gynnhelir sanctaidd gymmundeb â'r nefoedd trwy ddiogi a syrthni? A iawn drefnir teuluoedd, a iawn lywodraethir Eglwys, Dinas neu wlâd? A droir ac a ged wir pechaduriaid diofal (yr wyfi yn rhwymedig iw cymmorth) drwy eistedd yn fy un lle, a thrwy ryw egnion oerion a digalon?
Cwest. 10. A allafi wneuthur dim ychwaneg a minneu â chennyf gymmaint o gymmorth? A chennyf bôb mâth ar drugare ddau im hannog, a chreaduriaid i'm gwasaneuthu; a chennyf Jechyd i'm cefnogi, neu gystudd i ddwyn ar gôf i mi a'm cynnhyrfu; a chennyf y fâth feistr, y fâth wobr, na ellir dymuno ei gwell; pwy sydd lay escusodol am esceulustra nâ myfi?