A95346:249
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ha-wyr, nid coegbethau, and y pethau mwyaf a osododd Duw in ei Air gar eich bronnau, ac a'ch galwodd allan iw dilyn a'u meddiannu: a'ch amser iw ceisio hwynt sydd fir: Am hynny nid oes i chwi ddim amser i ymchwidawiaeth neu i dreifflan, na dim iw golly mewn seguryd a syrthni. Ac in anad neb fe ddylei Bregethwŷr fod in fwyaf teimladwy o hyn. Pettynt heb fôd in erbyn difrifol Sancteiddrwydd in eraill, Dwbl anwiredd yw i'r cyfryw ac ydynt hwy, fod in ei erbyn ynddynt eu hunain. Pethau mowrion sydd iddynt hwy iw hastudio ac i lefaru am danynt; a'r cyfryw bethau ar sy in galw am y difrifwch, a'r parch, a'r dwysdra mwyaf in yr ymadroddwr, ac in condemnio pob gwegi mewn matter a moes. Y Gŵr a anfonwyd gan Grist i redeg am goron anfarwol, neu i hyfforddi eraill in y cyfryw yrfa, i waredu ei enaid ei hun, neu eraill, o ddidrangc drueni, a ddylei gwilyddio, ei fôd in llenwi ei amser â gwegi, a'i fod in esceulus ac oeraidd ynghylch y cyfryw bethau mowrion a phwysfawr. Yr holl gallon a'r enaid, a'r egni sy in ddigon bychan i fatterion o bwys mor anrhaethadwy. Pan glywwyfi Bregethwyr neu bobl in treulio eu hamser mewn Pethau bychain anffrwythlon, amherthynasol, y rhai sy in eu tynnu hwynt oddiwrth orchwyl eu bucheddau, neu in ymbepreth neu chwarae â'r matterion mwyaf, in hytrach nâi harfer, a sôn am danynt mewn difrifwch cyfattebol i'r dwysder sy ynddynt; Mynych ⟨p. 114⟩yr wyf in meddwl a'm eiriau▪ Seneca, y difrifol ŵr moesawl, y rhai a allant gwilyddio rhagrith y cyfryw goeg Bregethwyr a Phroffeswŷr ffŷdd Gristianogawl; [cyhydu (medd efe) yr ydych eiriau lluosog, ac ar ymofynion clymmu clymmau cledion; ac meddwch, dyma bethau awchlym! beth sydd awchlymmach nâ chol yr ŷd? ac ym mhâ beth y mae'n fuddiol? mae manylder ei hun in gwneuthur rhyw bethau in anfuddiol ac in ddirym.] [gadawn heibio yr ynfydrwydd hwn ir Poetau, y rhai sy in bwriadu bodloni'r glust, a chyd-blethu chwedlau peraidd: And y rhai a fynnent jachau dealldwriaeth dynion, a chynnal ffyddlondeb mewn pethau dynol, a dwyn ar gôf iddynt eu dyledswyddau, rhaid iddynt lefaru in ddifrifol, a gwneuthur eu gorchwyl â'u holl egni.] Cymmwys y cyfrifei bawb ef in ynfyd, yr hwn (pan fyddei'r drêf in disgwyl ir gelynion ruthro arni, ac eraill in brysur ar eu gwaith iw hamddiffyn eu hunain,) a eisteddo in segur, gan ofyn rhwy gwestiwnau ysmala.]
Ha-wyr, nid coegbethau, ond y pethau mwyaf a osododd Duw yn ei Air gar eich bronnau, ac a'ch galwodd allan iw dilyn a'u meddiannu: a'ch amser iw ceisio hwynt sydd fyrr: Am hynny nid oes i chwi ddim amser i ymchwidawiaeth neu i dreifflan, na dim iw golli mewn seguryd a syrthni. Ac yn anad neb fe ddylei Bregethwŷr fod yn fwyaf teimladwy o hyn. Pettynt heb fôd yn erbyn difrifol Sancteiddrwydd yn eraill, Dwbl anwiredd yw i'r cyfryw ac ydynt hwy, fod yn ei erbyn ynddynt eu hunain. Pethau mowrion sydd iddynt hwy iw hastudio ac i lefaru am danynt; a'r cyfryw bethau ar sy yn galw am y difrifwch, a'r parch, a'r dwysdra mwyaf yn yr ymadroddwr, ac yn condemnio pob gwegi mewn matter a moes. Y Gŵr a anfonwyd gan Grist i redeg am goron anfarwol, neu i hyfforddi eraill yn y cyfryw yrfa, i waredu ei enaid ei hun, neu eraill, o ddidrangc drueni, a ddylei gwilyddio, ei fôd yn llenwi ei amser â gwegi, a'i fod yn esceulus ac oeraidd ynghylch y cyfryw bethau mowrion a phwysfawr. Yr holl galon a'r enaid, a'r egni sy yn ddigon bychan i fatterion o bwys mor anrhaethadwy. Pan glywwyfi Bregethwyr neu bobl yn treulio eu hamser mewn Pethau bychain anffrwythlon, amherthynasol, y rhai sy yn eu tynnu hwynt oddiwrth orchwyl eu bucheddau, neu yn ymbepreth neu chwarae â'r matterion mwyaf, yn hytrach nâi harfer, a sôn am danynt mewn difrifwch cyfattebol i'r dwysder sy ynddynt; Mynych