A95346:278
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr. 1. Yr wyfi yma ar osteg in proffesu, fy môd in cashau y beiau hyn in gystal a chwitheu: ⟨p. 135⟩ac nad yw ran in y bŷd om bwriad, i ddadleu tros anghymmedrolder, neu anufydddod mewn pethau cyfreithlawn, dross Schismau neu Ymbleidiau, na dim afreolaeth: A hyn yr wyfi yma in ei roddi i mewn in erbyn y sawl sy in ymosod i'n camddeall a rhoi goganair i'n herbyn, ac yr wyfi in ei adael megis Tystiolaeth ar lawr, er Coffaad, i brofi ei bod hwy in Absenwyr, y sawl a'm cyhuddont i o fod in amddiffyn dim o'r fâth beth. Ac yr wyfi in tystio in erbyn y lleill o'r tu arall, ar a gyrchant annogaeth i ddim trosedd oddiwrth fy angenrheidiol ddadleu tros Sanctaidd ddiwidrwydd a gwiliadwriaeth y ffyddloniad. Ac heb law hynny, yr wyfi in proffesu, may Gwrthwyneb-wŷr Sancteiddrwydd in unig, yr wyf in ei feddwl in yr amddiffyniad hwn, ac nad oes gennif y bwriad lleiaf i grybwyll, fod nêb eraill in evog or bay hwnnw ar nad ydynt. And gan ddarfod i mi ragosod y Cyffes cyhoedd hwn, i ragflaenu camgymmeriadau a chwedlau celwyddog, mi a attebaf in awr ir evog.
Eithr. 1. Yr wyfi yma ar osteg yn proffesu, fy môd yn cashau y beiau hyn yn gystal a chwitheu: ⟨p. 135⟩ac nad yw ran yn y bŷd om bwriad, i ddadleu tros anghymmedrolder, neu anufydddod mewn pethau cyfreithlawn, dros Schismau neu Ymbleidiau, na dim afreolaeth: A hyn yr wyfi yma yn ei roddi i mewn yn erbyn y sawl sy yn ymosod i'n camddeall a rhoi goganair i'n herbyn, ac yr wyfi yn ei adael megis Tystiolaeth ar lawr, er Coffaad, i brofi ei bod hwy yn Absenwyr, y sawl a'm cyhuddont i o fod yn amddiffyn dim o'r fâth beth. Ac yr wyfi yn tystio yn erbyn y lleill o'r tu arall, ar a gyrchant annogaeth i ddim trosedd oddiwrth fy angenrheidiol ddadleu tros Sanctaidd ddiwidrwydd a gwiliadwriaeth y ffyddloniad. Ac heb law hynny, yr wyfi yn proffesu, mai Gwrthwyneb-wŷr Sancteiddrwydd yn unig, yr wyf yn ei feddwl yn yr amddiffyniad hwn, ac nad oes gennif y bwriad lleiaf i grybwyll, fod nêb eraill yn euog or bai hwnnw ar nad ydynt. Ond gan ddarfod i mi ragosod y Cyffes cyhoedd hwn, i ragflaenu camgymmeriadau a chwedlau celwyddog, mi a attebaf yn awr ir euog.