A95346:291
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pettei and am dy einioes di, neu einioes dy blant, dy gyfaill, neu dy elyn; neu i ddiffodd tan in dy dŷ, neu in y Dref, Oni chynnhyrfit ti a gwneuthur dy oreu? Ac a fyddi di segur pan yw bywyd tragywyddol in sefyll ar y peth? Gad i Satan ruo in dy erbyn drwy ei offerynnau. Gad i bechaduriaid diddarbod siarad dross amser am yr hyn nis gwyddant ⟨p. 147⟩pa beth, hid oni wnelo Duw iddynt newid eu tôn. Deved a ddelo i'th gnawd: Nid yw y rhai'n bethau i ddal-sulw mor lawyer arnynt, gan doŷn a ymrwymodd i ddidrangc fywyd. Och pa bethau yw y rhai'n wrth y pethau y galwyd di iw dilyn! Ewch rhagoch gan hynny Gristianogion in y gwaith a ddechrevasoch. Gwnewch ef in bwyllog, a gwnewch in hollawl, Cymmerwch y cwbl ir unffordd, Gorchwylion Duwioldeb, Cyfiownder, a Chariad; Eithr gwnewch ef in awr in ddiymdro, a gwnewch ef in ddifrifol â'ch holl egni. Nis gwn i pa gwmmwl o dywyllwch a gymmerodd afael ar feddyliau y sawl a lefarasant in erbyn hyn: neu pa dearth anghevol a gymmerodd afaei ar eu calonnau, a'u gwneuthur mor lledsyn, heb reswm dynol ynddynt. Om rhan fy hun, er i mi fyw in her o amser in deimladwy mor werthfawr yw amser▪ ac na bûm i in segur hollawl in y bid; Etto pan yw fy meddyliau ddwysaf am y didrangc ddigwyddiadau o'm gwaith, ac am ansiccrwydd a byrdra fy amser, yr wyfi in synnu feddwl fedru o'm calon fod mor hwyrfrydig a diddar bod, na wnaethwn i ychwaneg in y cyfryw achos. Yr Arglwydd ai gŵyr, a'm Cydwybod archolledig in fy'nghyhuddo ai gŵyr, fod fy Niogi mor gwilyddus a rhyfeddol gennif, am bôd in synnu i feddwl, nad yw fy mwriadau ddim cryfach, na'm hawydd-search ddim bywioccach, na'm llafur a'm Diwydrwydd ddim mwy, pan may Duw yw'r hwn sy in gorchymmyn, a'i Gariad sy in annog, a'i ⟨p. 148⟩Ddigofaint yw'r Yspardun, ac mai'r Nefoedd neu Uffern fydd y diwedd. Oh pa fucheddau a ddylaem ni bawb oll eu bucheddu▪ y rhai y mae gennym bethau o gyfryw berthynas anrhaethadwy ar ein dwylaw, oni bae fod ein calonneu ym mron marw o'n mewn! llefared y sawl a fynno in erbyn y cyfryw fuchedd, fyngofid a'm cwynfan beunyddiol i a gaiff fod, fy môd mor ddwl ac in gwneuthur cyn lleied. Mi a wn nad ydyw ein gweithredoedd in llesol ir Holl alluog, ac nad oes ynddynt ddim cyfattebwch cydwedd iw wobr ef, ac ni allant sefyll in ei wydd ef, and megis ac y maent in gymmeradwy in yr Arglwydd ein Cyfiawnder, a chwedi eu Pêrarogli drwy arogldarth ei haeddedigaethau ef.