A95346:295
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Och o druein, nid oes dim and llwyddiant gwenwynig, a difyrrwch anianawl, a gwallgof bydol, ar sy in troy eich ymmennyddyau, ac heb adael i chwi sobr arfer rheswm, ac in peri i chwi dybiaid in dda o fusgrelli neu ddiogi annuwiol, ac in peri i chwi fod a thŷb mor ddirmygus ac mor anheimladwy am fuchedd nefol. Yr wyfi in ei ddywedyd i chwi (a chofiwch ryw did ddarfod ei ddywedyd i chwi) nad oes anghredadyn o'r dewraf ar sy iw gael, na'r gelyn chwerwaf i Sancteiddrwydd o fewn y Gymmanfa hon, na ddymunant ar fyrder ei bod in hyttrach in Seintiau mewn carpiau, in cael yr holl wawd a'r creulonder a fedro malis i roi ar y cyfryw, nâ bod wedi ym hoewi mewn balchder a gwychder, trwy esceuluso mawrion bethau tragywyddol. Mi a ddywedaf i chwi drachefn, nad oes adyn annuwiol in fy ngwrando, na roddei ar fyrder fŷd am fod in berchen calon a buchedd Sanctaidd: Ac ar fyrder fo chwennych pe treuliasei ei ddyddiau mewn Sanctaidd, wiliadwrus baratôad, erbyn ei gyfnewidiad o'r bid hwn i'r bid arall, y rhai a dreuliodd ef o ran yr hyn a'i twylla, ac ai gedu.
Och o druein, nid oes dim ond llwyddiant gwenwynig, a difyrrwch anianawl, a gwallgof bydol, ar sy yn troi eich ymmennyddyau, ac heb adael i chwi sobr arfer rheswm, ac yn peri i chwi dybiaid yn dda o fusgrelli neu ddiogi annuwiol, ac yn peri i chwi fod a thŷb mor ddirmygus ac mor anheimladwy am fuchedd nefol. Yr wyfi yn ei ddywedyd i chwi (a chofiwch ryw ddydd ddarfod ei ddywedyd i chwi) nad oes anghredadyn o'r dewraf ar sy iw gael, na'r gelyn chwerwaf i Sancteiddrwydd o fewn y Gymmanfa hon, na ddymunant ar fyrder ei bod yn hyttrach yn Seintiau mewn carpiau, yn cael yr holl wawd a'r creulonder a fedro malis i roi ar y cyfryw, nâ bod wedi ym hoewi mewn balchder a gwychder, trwy esceuluso mawrion bethau tragywyddol. Mi a ddywedaf i chwi drachefn, nad oes adyn annuwiol yn fy ngwrando, na roddei ar fyrder fŷd am fod yn berchen calon a buchedd Sanctaidd: Ac ar fyrder fo chwennych pe treuliasei ei ddyddiau mewn Sanctaidd, wiliadwrus baratôad, erbyn ei gyfnewidiad o'r byd hwn i'r byd arall, y rhai a dreuliodd ef o ran yr hyn a'i twylla, ac ai gedu.
Mi a dybygwn fy mod in gweled pa wed y Cythryblus gyndderiogwch chwi in eich erbyn eich hunain, ac y rhwygwch eich calonnau trwy ymddial arnoch eich hunain (oddieithr i râs ei ragflaenu trwy ddiogelach edifeirwch) pan feddylioch in rhyhwyr pa fodd y buoch fyw ar y ddaiar, a pha amseroedd euraid o râs a gollasoch, gan dirmygu pawb