A95346:346
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Un rhan o'ch gwaith, yr hwn y cymhellwn chwi iw wneuthur â'ch holl egni, yw mynych ystyried in ddifrifol a sobr yr holl wirioneddau hyn a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y rhai (meddwch chwi) yr ydych in eu credu. A ydyw ynteu ddynion rhesymmol in ammeu, a ddylaent hwy wneuthur defnydd o'i rheswm? neu a yw dynion credadwy in ammeu, a ddylaent hwy ystyried a gosod at eu calon Bwys a defnydd y pethau a gredant?
1. Un rhan o'ch gwaith, yr hwn y cymhellwn chwi iw wneuthur â'ch holl egni, yw mynych ystyried yn ddifrifol a sobr yr holl wirioneddau hyn a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y rhai (meddwch chwi) yr ydych yn eu credu. A ydyw ynteu ddynion rhesymmol yn ammeu, a ddylaent hwy wneuthur defnydd o'i rheswm? neu a yw dynion credadwy yn ammeu, a ddylaent hwy ystyried a gosod at eu calon Bwys a defnydd y pethau a gredant?
2. Rhan arall o'ch gwaith, yw caru Duw â'ch holl gallon a'ch nerth; ai wneuthur ef in hyfrydwch i chwi, a cheisio in gyntaf ei deyrnas ef a'i chyfiawnder; ac i roddi eich search ar y pethau uchod, ac i fyw ar y ddaiar fell etifeddion y nefoedd: ac a oes dim Dadl ynghylch hyn ym mysc Protestaniaid, Papistiaid na nêb arall?
2. Rhan arall o'ch gwaith, yw caru Duw â'ch holl galon a'ch nerth; ai wneuthur ef yn hyfrydwch i chwi, a cheisio yn gyntaf ei deyrnas ef a'i chyfiawnder; ac i roddi eich serch ar y pethau uchod, ac i fyw ar y ddaiar fel etifeddion y nefoedd: ac a oes dim Dadl ynghylch hyn ym mysc Protestaniaid, Papistiaid na nêb arall?
3. Rhan arall o'ch gwaith, yw edrych am anrhydeddu Duw in y bŷd, a derchafu ei Deyrnas a'i Lywodraeth ef ynoch eich hunain ac in eraill, a gwneuthur ei ewyllys, ac ufyddhau iw gyfreithiau; A oes chwaith in hyn ddim Dadl?