A95346:359
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Rhaid yw gwneuthur gwaith Duw mewn Parch, in ei ofn ef: nid megis cyffredinol orchwylion Dynion, â chyffredinol a diofal dimmer meddwl: fe a fin Duw ei Sancteiddio gan y rhai a nesant atto. Lev. 10. 3. efe a fin ei wasaneuthu megis Duw, ac nid megis dŷn: ni fin ef mor gweddio arno a meddwl diofal, fall y gwnâ y rhai a fedrant wahann eu tafodau oddiwrth eu calonnau, ac adrodd rhyw eiriau cyffredinol drostynt, tra bythont hwy in meddwl am ryw beth arall. Peth dychrynnadwy yw i lwch lefaru wrth Dduw hollalluog: a pheth peryglus yw llefaru wrtho ef mor ysgoywan a diofal, a phettym ni in ymddiddan ag un o'n Cymdeithion. Fe ddyle din grassol fôd â mwy o ofn Duw ar ei gallon, in ei orchwylion cyffredinol in y bid, nag y sydd gan Ragrithwyr in eu gweddiau mwyaf Pwysfawr. A wyddost di y gwahaniaeth sydd rhwng Duw a ⟨p. 195⟩Dŷn? Gwnâ gan hynny y Cyfryw ragor rhwng Duw a dŷn in dy ymgais atto, ac y mae ei fawrhydi ef in ei ofyn. Ac edrych hefyd am ith Deulŷ drefnu eu hunain mewn ymddygiad parchedic, pan gydymgyssylltont â thy in Addoli Duw. Beth sydd gennych in awr iw ddywedyd in erbyn yr Y mddygiad parchedic hwn? A oes dim in hyn a dadl in ei gylch?
1. Rhaid yw gwneuthur gwaith Duw mewn Parch, yn ei ofn ef: nid megis cyffredinol orchwylion Dynion, â chyffredinol a diofal dymmer meddwl: fe a fyn Duw ei Sancteiddio gan y rhai a nesant atto. Lev. 10. 3. efe a fyn ei wasaneuthu megis Duw, ac nid megis dŷn: ni fyn ef mor gweddio arno a meddwl diofal, fal y gwnâ y rhai a fedrant wahann eu tafodau oddiwrth eu calonnau, ac adrodd rhyw eiriau cyffredinol drostynt, tra bythont hwy yn meddwl am ryw beth arall. Peth dychrynnadwy yw i lwch lefaru wrth Dduw hollalluog: a pheth peryglus yw llefaru wrtho ef mor ysgoywan a diofal, a phettym ni yn ymddiddan ag un o'n Cymdeithion. Fe ddyle ddyn grassol fôd â mwy o ofn Duw ar ei galon, yn ei orchwylion cyffredinol yn y byd, nag y sydd gan Ragrithwyr yn eu gweddiau mwyaf Pwysfawr. A wyddost di y gwahaniaeth sydd rhwng Duw a ⟨p. 195⟩Dŷn? Gwnâ gan hynny y Cyfryw ragor rhwng Duw a dŷn yn dy ymgais atto, ac y mae ei fawrhydi ef yn ei ofyn. Ac edrych hefyd am ith Deulŷ drefnu eu hunain mewn ymddygiad parchedic, pan gydymgyssylltont â thi yn Addoli Duw. Beth sydd gennych yn awr iw ddywedyd yn erbyn yr Y mddygiad parchedic hwn? A oes dim yn hyn a dadl yn ei gylch?