A95346:355
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
10. In olaf, y gwaith yr ydym ni in eich galw iddo, yw caru eich Cymmydogion fell chwi eich hunain, ac i wneuthur i eraill megis ac y mynnech iddynt hwythau [mewn barn bwyllig] wneuthur i chwithau. Bod heb wawdio, gwatwar, blino, carcharu, difenwi na drygu neb, hid oni fynnech gael eich trin eich hunain felly ar y cyffelyb achos. Llawenychu ym mûdd â braint eraill in gystal ⟨p. 193⟩ar eiddoch eich hunain. Bod heb genfigennu wrth nêb, na chasau undyn, na gwneuthur cam â neb in eu personau, eu ystât, neu eu henw da: Amddiffyn diweirdeb, parch, a golud eich cymmydog, megis yr eiddoch eich hunain. Caru eich gelynion, a maddeu ir sawl a wnelont gam a chwi, a gweddio dross y rhai a'ch casant, a'ch drygant, ac a'ch erlidiant. Dymma eich gwaith. A oes gan hynny ddim terfysg, Schism, neu ddadl in hyn? nac oes ddim; chwi a gewch wybod ar fyrder, nad oedd ymrafaelion a dadlevon ffyddloniaid, a'r aml opinionau ynghylch Crefydd, and esgus truan rhagrithiol, am esceuluso a dirmygu Sylwedd Crefydd, ynghylch yr hyn nid oedd dim amrafael, and pob rhyw blaid oeddynt in cyttuno in Cyffessu 'r Gwirionedd, pa wed bynnag y byddei Ragrithwyr heb fyw in ôl yr hyn yr oeddynt hwy eu hunain in ei broffessu.
10. Yn olaf, y gwaith yr ydym ni yn eich galw iddo, yw caru eich Cymmydogion fel chwi eich hunain, ac i wneuthur i eraill megis ac y mynnech iddynt hwythau [mewn barn bwyllig] wneuthur i chwithau. Bod heb wawdio, gwatwar, blino, carcharu, difenwi na drygu neb, hyd oni fynnech gael eich trin eich hunain felly ar y cyffelyb achos. Llawenychu ym mûdd â braint eraill yn gystal ⟨p. 193⟩ar eiddoch eich hunain. Bod heb genfigennu wrth nêb, na chasau undyn, na gwneuthur cam â neb yn eu personau, eu ystât, neu eu henw da: Amddiffyn diweirdeb, parch, a golud eich cymmydog, megis yr eiddoch eich hunain. Caru eich gelynion, a maddeu ir sawl a wnelont gam a chwi, a gweddio dros y rhai a'ch casant, a'ch drygant, ac a'ch erlidiant. Dymma eich gwaith. A oes gan hynny ddim terfysg, Schism, neu ddadl yn hyn? nac oes ddim; chwi a gewch wybod ar fyrder, nad oedd ymrafaelion a dadleuon ffyddloniaid, a'r aml opinionau ynghylch Crefydd, ond esgus truan rhagrithiol, am esceuluso a dirmygu Sylwedd Crefydd, ynghylch yr hyn nid oedd dim amrafael, ond pob rhyw blaid oeddynt yn cyttuno yn Cyffessu 'r Gwirionedd, pa wedd bynnag y byddei Ragrithwyr heb fyw yn ôl yr hyn yr oeddynt hwy eu hunain yn ei broffessu.