A95346:368
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
8. Ymhellach, fe fin Duw ei wasaneuthu mewn Cariad, ewyllysgarwch, a hyfrydwch: Y gwaith mwyaf ynnillgar, anrhydeddusaf, bendigediccaf a hyfrydaf in y bŷd yw hwn, yr hwn a ordeiniodd ef i chwi, ac nid tasg neu gaethwaith poenus: Ac am hynny nid i gwrs o fywyd Athrist, nychlyd, trallodus yr ⟨p. 203⟩ydym ni in eich perswadio, dan enw Duwioldeb; And i lawenychu in yr Arglwydd, ac i fyw mewn llawen ddisgwyliad am fywyd tragywyddol, ac mewn teimlad a siccrwydd o Gariad Duw. Pe medrech chwi ddangos i ni ddim tebygoliaeth o fywyd hyfrydach a llawenach ar y ddaiar, nâ 'r hwn y mae difrifol Sancteiddrwydd in ei gyfrannu, fe fyddei dda gan fy 'nghalon wrando arnoch. Yr wyfi in barod i fynegi i chwi beth yw Sail ein Cyssurau, y mae ffydd in ei datguddio, os dewch ac ymresymmu 'r peth mewn Sobrwydd, a dangos Defnydd a Sail eich cyssurau chwithau, y rhai sydd gennych, neu yr ydych in gobeithio ei gael mewn ford arall in y bid: Os bid eich llawenydd chwi in fwy, a gwell, a Siccrach nâ llawenydd ffydd, ni a wrandawn arnoch, ac a fyddwn och meddwl a'ch plaid chwi.
8. Ymhellach, fe fyn Duw ei wasaneuthu mewn Cariad, ewyllysgarwch, a hyfrydwch: Y gwaith mwyaf ynnillgar, anrhydeddusaf, bendigediccaf a hyfrydaf yn y bŷd yw hwn, yr hwn a ordeiniodd ef i chwi, ac nid tasg neu gaethwaith poenus: Ac am hynny nid i gwrs o fywyd Athrist, nychlyd, trallodus yr ⟨p. 203⟩ydym ni yn eich perswadio, dan enw Duwioldeb; Ond i lawenychu yn yr Arglwydd, ac i fyw mewn llawen ddisgwyliad am fywyd tragywyddol, ac mewn teimlad a siccrwydd o Gariad Duw. Pe medrech chwi ddangos i ni ddim tebygoliaeth o fywyd hyfrydach a llawenach ar y ddaiar, nâ 'r hwn y mae difrifol Sancteiddrwydd yn ei gyfrannu, fe fyddei dda gan fy 'nghalon wrando arnoch. Yr wyfi yn barod i fynegi i chwi beth yw Sail ein Cyssurau, y mae ffydd yn ei datguddio, os dewch ac ymresymmu 'r peth mewn Sobrwydd, a dangos Defnydd a Sail eich cyssurau chwithau, y rhai sydd gennych, neu yr ydych yn gobeithio ei gael mewn ffordd arall yn y byd: Os bydd eich llawenydd chwi yn fwy, a gwell, a Siccrach nâ llawenydd ffydd, ni a wrandawn arnoch, ac a fyddwn och meddwl a'ch plaid chwi.