A95346:406
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
LlYTHR CARWR Y CYMRU AT holl Anghristnogion, Rhith-Cristianogion, a gwir Cristianogion Cymru, i ddangos pa ddenfydd sydd iddynt i wneuthur o'r drychau hyn.
Chwi bobl Gymru ydych in tybied, ac in gobeithio eich bod oll in wir gristianogion, o herwydd eich bedyddio â dwfr, a'ch bod in cymeryd ar•och proffessio y wir grefydd; gwybyddwch er hyn i gyd, fod y rhan fwyaf o horoch in camgymeryd eich hun; canys eglur ydyw fod lawyer o honoch in Anghristnogion, a ⟨image 124⟩mwy o honoch in Rhith-cristnogion, a'r rhan leiaf o honoch in wir gristnogion. Duw sydd in gwybod fod gwir ewyllys fynghalon am gweddi, ar iddo (o'i fawr▪ drugaredd) eich dwyn oll i fod in wir Gristnogion, iw wasanaethu ef mewn yspryd a gwirionedd: gan hynny gossodais allan in y llyfran bychan hwn, dry o ddrychau yfprydol, i ddangos i bob un o honoch eich wynebpryd, a'ch cyflwr eich hun: cymerwch amser i edrych ynddynt oll, fell y galloch welled pan o honynt sydd in dangos i chwi eich hun▪ A gwybyddwch mae drychau cywir ydynt; ac na thwyllant mo honoch drwy eich gwneuthur i edrych in deccach nac in hacrach nag ydych. Gwir, ddangossant i chwi oll eich prŷd, a'ch gwedd, yngolwg Duw, beth bynnag ydych in eich golwg eich hun a'r bid. I gyflawni hyn rhaid i chwi wybod, in gyntaf, na wasanaetha eich llygaid corphorol, na'ch Llygaid naturiol in unig, i edrych in y drychau ysprydol hyn; a'ch bod in ddeillion, er eich bod in tybied eich bod in gweled. Gan hynny attolygwch ar Dduw roddi i chwi lygaid i welled, a cheisiwch eli gan Grist i iro eich llygaid fell y gweloch eich amryw brydiau in y drychau hyn. Dat. 3. 18. In ail gwybyddwch hefyd, pan gaffoch lygaid i welled, nad yw hyn ddigon, self i chwi edrych ychydig ar gip in y drychau hyn, ac yno anghofio in y man pa faith ydych, and rhaid i chwi graffu, a dal sulw ar eich oll aflendid cnawd ac yspryd, ar a ddangosso y drychau hyn i chwi, Jac. 1. 23. 24. ac ystiried mor anolygus ydych yngolwg Duw. In drydydd rhaid i chwi grio ar