A95346:46
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac felly ein Achubwr wrth ddywedyd hyn sydd in bygwth barn ofnadwy i ddyfod arnom bawb oll: Canys penderfynu y mae, a chloi ei reswm am bob dŷn byw ar wyneb y ddaianr, (pan bynnag ydyw ai uchel ai issel, ai cyfoethog ai tlawd, jevangc ai hên, bonedig ai gwrêng, dyscedig ai annyscedig, gwirionffôl ai cyfrwysgall, o ba gyflwr, neu râdd, neu fraint bynnag y byddo,) in byw, ac in marw in ddiedifeiriol, y collir hwynt oll, ac y condemnir in nhân uffern in dragwyddol. Lawn yw 'r Scrythyrau o'r cyffelyb fygythiadon. Jo. 3. 18. Yr hwn ni chredo a gondemnwyd eusys. ac 2 Cor. 13. 5. Profwch eich hunain a ydych chwi in y ffydd: holwch eich hunain: onid adwaenoch eich hunain fod Jesus Grist ynoch oddieithr eich bod in wrthodedig? Lle y mae yr Apostol in yspysu in amlwg, nad ŷnt, y sawl oll ar nad ces ganddynt Grist in aros in eu calonnau trwy ffydd, yr hon yw chwaer deuluol edifeirwch, nad ŷnt meddaf ddim gwell eu braint nâ dynion anghymmeradwy, gwrthodedig, a damnedig.
Ac felly ein Achubwr wrth ddywedyd hyn sydd yn bygwth barn ofnadwy i ddyfod arnom bawb oll: Canys penderfynu y mae, a chloi ei reswm am bob dŷn byw ar wyneb y ddaiār, (pa vn bynnag ydyw ai uchel ai issel, ai cyfoethog ai tlawd, ieuangc ai hên, bonedig ai gwrêng, dyscedig ai annyscedig, gwirionffôl ai cyfrwysgall, o ba gyflwr, neu râdd, neu fraint bynnag y byddo,) yn byw, ac yn marw yn ddiedifeiriol, y collir hwynt oll, ac y condemnir yn nhân vffern yn dragwyddol. Llawn yw 'r Scrythyrau o'r cyffelyb fygythiadon. Jo. 3. 18. Yr hwn ni chredo a gondemnwyd eusys. ac 2 Cor. 13. 5. Profwch eich hunain a ydych chwi yn y ffydd: holwch eich hunain: onid adwaenoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch oddieithr eich bod yn wrthodedig? Lle y mae yr Apostol yn yspysu yn amlwg, nad ŷnt, y sawl oll ar nad ces ganddynt Grist yn aros yn eu calonnau trwy ffydd, yr hon yw chwaer deuluol edifeirwch, nad ŷnt meddaf ddim gwell eu braint nâ dynion anghymmeradwy, gwrthodedig, a damnedig.
Eithr o herwydd body rhan-fwyaf in y dyddiau hyn mewn siommedigaeth dybryd, a chamsynnied gresynol ynghylch edifeirwch, in gystal eisieu gwir-wybod pa beth ydyw, beth y mae in ei deal; beth y mae in ei weithio, beth yw ei gynneddfau ai gampau, pa achosion sydd iddo, a pha rwystrau a lluddias sydd arno, ac hefyd paham, pa bryd, ac o