A95346:50
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y Prophwydi in yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air in arwyddocau in yr Hebr-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch in ôl drachefn▪ Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir; may megis y mae in rhaid ir dŷn a gyfeiliorno ym-mhell allan oi ford, ddychwelyd in ôl eilwaith ar hid ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ford dduwioldeb i ford pechod, rhaid iddynt ddychwelyd in ôl eilwaith cyn gynted ac ▪yr aethent ymlaen, a newidio in hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddychweliad at Dduw â'r holl gallon, enaid, a meddwl.
Y Prophwydi yn yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air yn arwyddocau yn yr Hebre-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch yn ôl drachefn▪ Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir; mai megis y mae yn rhaid ir dŷn a gyfeiliorno ym-mhell allan oi ffordd, ddychwelyd yn ôl eilwaith ar hyd ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ffordd dduwioldeb i ffordd pechod, rhaid iddynt ddychwelyd yn ôl eilwaith cyn gynted ac ▪yr aethent ymlaen, a newidio yn hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddychweliad at Dduw â'r holl galon, enaid, a meddwl.
Joan Fedyddiwr, a'r Apostolion in y Testament newydd, wrth annog i edifeirwch, a arferant Roeg-air in arwyddocau newidio'r meddwl, neu cyfnewid-fryd synhwyrol o'r diwedd; i arddangos fod y rhai a ddarfu iddynt ar y cyntaf trwy eu ffoledd, ac eisieu synwyr lithro i ddyfn-bwll, ac enbydus drochlyn pechod, pan ddelont i wybod oddiwrthynt eu hunain, ac i gasclu eu synwyr ynghyd, in synwyroli eilwaith, ac in cymmeryd gofal rhag fyrthio yno drachefn, in ôl y ddihareb, Y plentyn a loscer ei fŷs a ochel rhag y tân.
Joan Fedyddiwr, a'r Apostolion yn y Testament newydd, wrth annog i edifeirwch, a arferant Roeg-air yn arwyddocau newidio'r meddwl, neu cyfnewid-fryd synhwyrol o'r diwedd; i arddangos fod y rhai a ddarfu iddynt ar y cyntaf trwy eu ffoledd, ac eisieu synwyr lithro i ddyfn-bwll, ac enbydus drochlyn pechod, pan ddelont i wybod oddiwrthynt eu hunain, ac i gasclu eu synwyr ynghyd, yn synwyroli eilwaith, ac yn cymmeryd gofal rhag fyrthio yno drachefn, yn ôl y ddihareb, Y plentyn a loscer ei fŷs a ochel rhag y tân.