A95346:63
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys tybied y maent may pa beth bynnag a ddywedont, pa beth bynnag a wnelost, bid drŵg, bid da, byddent edifeiriol, neu ddiedifeiriol, etto y byddant cadwedig trwy farwolaeth Christ, Megis pe gwnaent ef in llattai pechod, ac felly gweithio y drygioni hwnnw in erbyn Christ.
Canys tybied y maent mai pa beth bynnag a ddywedont, pa beth bynnag a wnelost, bid drŵg, bid da, byddent edifeiriol, neu ddiedifeiriol, etto y byddant cadwedig trwy farwolaeth Crist, Megis pe gwnaent ef yn llattai pechod, ac felly gweithio y drygioni hwnnw yn erbyn Crist.
Gobeithio, medd rhai, y byddwn cadwedig drwy farwolaeth Christ in gystal ar goreu o honynt. And p'le y mae dy edifeirwch di o ddŷn anhappus? A wit ti in tybied fôd trugaredd Dduw in gyffredin i bawb? A bod marwolaeth Christ in llattai i'th bechodau di! Nid felly, eithr pan ddever i chwareu am y da, neu pan ddever i'r diwedd fe geir dy welled ti in glôff.
Gobeithio, medd rhai, y byddwn cadwedig drwy farwolaeth Crist yn gystal ar goreu o honynt. Ond p'le y mae dy edifeirwch di o ddŷn anhappus? A wyt ti yn tybied fôd trugaredd Dduw yn gyffredin i bawb? A bod marwolaeth Crist yn llattai i'th bechodau di! Nid felly, eithr pan ddeuer i chwareu am y da, neu pan ddeuer i'r diwedd fe geir dy weled ti yn glôff.
Canys in y gwrthwyneb y daw breuddwydion. Ti a gei welled trugaredd Dduw in troy in gyfiawnder, a marwolaeth Christ in wermod, o herwydd it gasau gwybodaeth, ac na ddewisaist ofn yr Arglwydd, Dihar 1. 29. Mal hyn chwi a welwch fy mrodyr anwyl, fod in rhaid cael edifeirwch o flaen maddevant pechod: ac prŷd na byddo efe in cadw y blaen, yna y bid drŵs trugaredd Dduw wedi ei gau: ac dymma y gynneddf gyntaf i Edifeirwch.
Canys yn y gwrthwyneb y daw breuddwydion. Ti a gei weled trugaredd Dduw yn troi yn gyfiawnder, a marwolaeth Crist yn wermod, o herwydd it gasau gwybodaeth, ac na ddewisaist ofn yr Arglwydd, Dihar 1. 29. Mal hyn chwi a welwch fy mrodyr anwyl, fod yn rhaid cael edifeirwch o flaen maddeuant pechod: ac prŷd na byddo efe yn cadw y blaen, yna y bydd drŵs trugaredd Dduw wedi ei gau: ac dymma y gynneddf gyntaf i Edifeirwch.