A95346:55
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ynghymdeithas y rhain a'r rhain y meddwais, y ceblais air Dduw, y gwatworais y Pregethwyr, ni russais dyngu pôb mâth ar lwon, ac adrodd serthedd. Ac yr awrhon o Arglwydd Dduw pa anghenfil anfatynedd, pa ddiffeith-was coeglyd wyf fi? Ymma yr wyf in sefyll in dy ŵydd di in llwyr-noeth, in ddall, in glwyfus, in dlawd▪ in druan, ac in resynol, in deilwng o fîl o ddamnedigaethau, ped ait ti i'r farn â'm fi, a rhoddi 'r gyfraith i'm herbyn. Am hynny yr wyf in attolwg i ti dosturio, a thrugarhau wrthif. Ira fy archollion ag olew dy drugaredd, dyro i mi fyngolwg, a chuddia fy noethni, cyfoethoga fi yr hwn ŵyf dlawd, cryfhâ fi yr hwn ŵyf wan, cymmorth fi yr hwn a syrthiais: ô na ddôs ymmaith oddi wrthif. Y plentyn a gynhyrfa ei fam i gymmodi ag ef drwy lefain arni; a'r mâb drwy wylofain a nadu â ynnill fodd ei dâd: a'r gwas a orchfyga ei feistr drwy ymbil ag ef▪ Ac oni chynnhyrfir di i dosturi, O Arglwydd? Mal hyn, meddaf pe bae pôb dŷn in llefaru in ei gydwybod wrth Dduw, ac mal hyn in fanwl, neu in sanylach in ei holy ei hun, diammeu y byddei efe ar wir ford edifeirwch.
Ynghymdeithas y rhain a'r rhain y meddwais, y ceblais air Dduw, y gwatworais y Pregethwyr, ni russais dyngu pôb mâth ar lwon, ac adrodd serthedd. Ac yr awrhon o Arglwydd Dduw pa anghenfil anfatynedd, pa ddiffeith-was coeglyd wyf fi? Ymma yr wyf yn sefyll yn dy ŵydd di yn llwyr-noeth, yn ddall, yn glwyfus, yn dlawd▪ yn druan, ac yn resynol, yn deilwng o fîl o ddamnedigaethau, ped ait ti i'r farn â'm fi, a rhoddi 'r gyfraith i'm herbyn. Am hynny yr wyf yn attolwg i ti dosturio, a thrugarhau wrthif. Ira fy archollion ag olew dy drugaredd, dyro i mi fyngolwg, a chuddia fy noethni, cyfoethoga fi yr hwn ŵyf dlawd, cryfhâ fi yr hwn ŵyf wan, cymmorth fi yr hwn a syrthiais: ô na ddôs ymmaith oddi wrthif. Y plentyn a gynhyrfa ei fam i gymmodi ag ef drwy lefain arni; a'r mâb drwy wylofain a nadu â ynnill fodd ei dâd: a'r gwas a orchfyga ei feistr drwy ymbil ag ef▪ Ac oni chynnhyrfir di i dosturi, O Arglwydd? Mal hyn, meddaf pe bae pôb dŷn yn llefaru yn ei gydwybod wrth Dduw, ac mal hyn yn fanwl, neu yn sanylach yn ei holi ei hun, diammeu y byddei efe ar wir ffordd edifeirwch.