A95346:68
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys y mae 'r bŷd in caru yr eiddo ei hun, ac ni all oddef i Dduw dynnu un bluen allan o'i adenydd ef: Eithr edifeirwch sy'n tynnu dynion o drais allan o ewinedd y cythraul, ac in eu newidio oddiwrth helynt y bid: Oblegit y mae efe in gwneuthur dŷn, o falch in ostyngedig; o ddrygionus in ddiniwed; o greulon in llednais; o flaidd in oen; o lew in ddafad; o odinebwr▪ in ddiwair; o feddwyn in sobr; o dyngwr in ymadroddwr parchedig; o gas-ddŷn in gyfaill; o ddirmygwr in hôff; o wawd-wr in garedig; o fydol in Ysprydol; ac o gythraul in Sanct. Hyn oll a weithia edifeirwch.
Canys y mae 'r bŷd yn caru yr eiddo ei hun, ac ni all oddef i Dduw dynnu un bluen allan o'i adenydd ef: Eithr edifeirwch sy'n tynnu dynion o drais allan o ewinedd y cythraul, ac yn eu newidio oddiwrth helynt y byd: Oblegit y mae efe yn gwneuthur dŷn, o falch yn ostyngedig; o ddrygionus yn ddiniwed; o greulon yn llednais; o flaidd yn oen; o lew yn ddafad; o odinebwr▪ yn ddiwair; o feddwyn yn sobr; o dyngwr yn ymadroddwr parchedig; o gas-ddŷn yn gyfaill; o ddirmygwr yn hôff; o wawd-wr yn garedig; o fydol yn Ysprydol; ac o gythraul yn Sanct. Hyn oll a weithia edifeirwch.
Paul oedd gynt in ei daith i Ddamascus in flaidd, in erlidiwr, in sugn-wr gwaed, in dal câs, in ddirmyg-wr: Eithr cyn i fined yno, yr oedd y gŵr wedi ei newidio in hollawl, ⟨p. 15⟩ac o feddwl arall; mor rymmus oedd yr hwn ai cyfarfu ar y ford. Pan anfonodd▪ Christ Jesus yr Yspryd Glân i lawr ar ei ddiscyblion in ôl ei addewid, yr oedd rhai gwatworwyr in Jerusalem, in gwneuthur gwawd gan ddywedyd. Lawn ydynt o win newydd: And yr un gwŷr a lefasant in y man in ôl hynny: Ha-wyr frodyr pa beth a wnawn ni i fod in gadwedig? Act. 2. 37.
Paul oedd gynt yn ei daith i Ddamascus yn flaidd, yn erlidiwr, yn sugn-wr gwaed, yn dal câs, yn ddirmyg-wr: Eithr cyn i fyned yno, yr oedd y gŵr wedi ei newidio yn hollawl,