A95346:66
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Rhinwed arall mewn gwir edifeirwch yw newidio, a throi dynion o'r hyn oeddynt o'r blaen, i'r hyn nid oeddynt: a'r newidiad hwn sydd nid o ran sylwed; a hanfod corpholedd, ⟨p. 14⟩and o ran rhinweddau, a chynheddfau y meddwl.
Rhinwed arall mewn gwir edifeirwch yw newidio, a throi dynion o'r hyn oeddynt o'r blaen, i'r hyn nid oeddynt: a'r newidiad hwn sydd nid o ran sylwed; a hanfod corpholedd, ⟨p. 14⟩ond o ran rhinweddau, a chynheddfau y meddwl.
Canys pwy bynnag a gymmerth wir edifeirwch, chwi a gewch welled in y man ynddo ef newidiad dieithrol, a rhyfeddol; in gymmaint, ac na wna efe er dim, y peth a wnaeth, ac ni ddywed y peth a ddywedodd, ac ni ddilyn y gymdeithas y bu gynt in ei dilyn, na bod in gydymmaith da (megis y dywedant) fell y byddei arfer, ac ni lŷn wrth y cyfryw rysedd, ac yr ydoedd gynnefin ag ef. Ac dymma 'r peth sydd in peri ir bid synnu, a brochi, a chyffroi in anguriol, a chablu y sawl a ddychwelont at Dduw.
Canys pwy bynnag a gymmerth wir edifeirwch, chwi a gewch weled yn y man ynddo ef newidiad dieithrol, a rhyfeddol; yn gymmaint, ac na wna efe er dim, y peth a wnaeth, ac ni ddywed y peth a ddywedodd, ac ni ddilyn y gymdeithas y bu gynt yn ei dilyn, na bod yn gydymmaith da (megis y dywedant) fel y byddei arfer, ac ni lŷn wrth y cyfryw rysedd, ac yr ydoedd gynnefin ag ef. Ac dymma 'r peth sydd yn peri ir byd synnu, a brochi, a chyffroi yn anguriol, a chablu y sawl a ddychwelont at Dduw.
Canys y mae 'r bŷd in caru yr eiddo ei hun, ac ni all oddef i Dduw dynnu un bluen allan o'i adenydd ef: Eithr edifeirwch sy'n tynnu dynion o drais allan o ewinedd y cythraul, ac in eu newidio oddiwrth helynt y bid: Oblegit y mae efe in gwneuthur dŷn, o falch in ostyngedig; o ddrygionus in ddiniwed; o greulon in llednais; o flaidd in oen; o lew in ddafad; o odinebwr in ddiwair; o feddwyn in sobr; o dyngwr in ymadroddwr parchedig; o gas-ddŷn in gyfaill; o ddirmygwr in hôff; o wawd-wr in garedig; o fydol in Ysprydol; ac o gythraul in Sanct. Hyn oll a weithia edifeirwch.