A95766:272
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher.
Printiedig in Llundain : gan Alice Grover, in y flwyddyn sic, 1682Printiedig yn Llundain : gan Alice Grover, yn y flwyddyn sic, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb, Yr wyfi in deal oddiwrth sancteiddrwydd Duw fod ford yr annuwiol ⟨p. 8⟩in ffiaidd gan yr Arglwydd, ac nas gellir ei demptio ef â drygau, ac nad yw efe in temptio neb. Dihar. 15.9. Jag. 1.13.
Atteb, Yr wyfi yn deall oddiwrth sancteiddrwydd Duw fod ffordd yr annuwiol ⟨p. 8⟩yn ffiaidd gan yr Arglwydd, ac nas gellir ei demptio ef â drygau, ac nad yw efe yn temptio neb. Dihar. 15.9. Jag. 1.13.
Hol. Beth a ddirnedwch chwi oddiwrth fod Duw in dra-daionus?
Hol. Beth a ddirnedwch chwi oddiwrth fod Duw yn dra-daionus?
Atteb. Yr wyfi in deal oddiwrth fod Duw in dra-daionus, ei fod ef in ddaionus i bawb, ac in digoni ewyllys pob peth byw, ac in rhoi in haelionus i bawb, ac heb ddannod. Psal. 145.9, 16. Jag. 1.5.
Atteb. Yr wyfi yn deall oddiwrth fod Duw yn dra-daionus, ei fod ef yn ddaionus i bawb, ac yn digoni ewyllys pob peth byw, ac yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod. Psal. 145.9, 16. Jag. 1.5.