A95766:285
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher.
Printiedig in Llundain : gan Alice Grover, in y flwyddyn sic, 1682Printiedig yn Llundain : gan Alice Grover, yn y flwyddyn sic, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Hol. Yr awr-hon oherwydd nad yw gwybodaeth and anfuddiol oddieithr iddi ein arwain at ymarfer dda, dywedwch i mi pa ddyled-swyddau yr ydych chwi in eu dyscu oddiwrth Briodoliaethau perffeth y Duwiol Anian: ac in gyntaf beth a ddyscwch oddiwrth Burdeb difrycheulyd a sancteiddrwydd Duw?
Hol. Yr awr-hon oherwydd nad yw gwybodaeth ond anfuddiol oddieithr iddi ein arwain at ymarfer dda, dywedwch i mi pa ddyled-swyddau yr ydych chwi yn eu dyscu oddiwrth Briodoliaethau perffeth y Duwiol Anian: ac yn gyntaf beth a ddyscwch oddiwrth Burdeb difrycheulyd a sancteiddrwydd Duw?
Atteb. Yr wyfi in dyscu oddiwrth Burdeb a sancteiddrwydd Duw, y dylawn i fod in sanctaidd ym mhob ymarweddiad, megis ac y mae y neb a'm galwodd i in sanctaidd, a'm puro fy hun megis y mae yntef in bûr. 1 Pet. 1.15. 1 Jo. 3.3.
Atteb. Yr wyfi yn dyscu oddiwrth Burdeb a sancteiddrwydd Duw, y dylawn i fod yn sanctaidd ym mhob ymarweddiad, megis ac y mae y neb a'm galwodd i yn sanctaidd, a'm puro fy hun megis y mae yntef yn bûr. 1 Pet. 1.15. 1 Jo. 3.3.
Hol. Beth a ddyscwch chwi oddiwrth anfeidrol Ddaioni a Thrugaredd Duw?