A95766:565
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher.
Printiedig in Llundain : gan Alice Grover, in y flwyddyn sic, 1682Printiedig yn Llundain : gan Alice Grover, yn y flwyddyn sic, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gweddi Forevol.
Gweddi Foreuol.
O Fendigedig a gogoneddus Arglwydd Dduw, myfi dy greadur truan wyf in ewyllysio in ostyngedig gyflwyno ger dy fron di fy aberth forevol o foliant a diolch, yr hyn yr wyf in deisyf arnat ei dderbyn in rasusol drwy dy unig anedig Fâb a'm Achubwr anwyl.
O Fendigedig a gogoneddus Arglwydd Dduw, myfi dy greadur truan wyf yn ewyllysio yn ostyngedig gyflwyno ger dy fron di fy aberth foreuol o foliant a diolch, yr hyn yr wyf yn deisyf arnat ei dderbyn yn rasusol drwy dy vnig anedig Fâb a'm Achubwr anwyl.
Yr wyf in moliannu dy enw sanctaidd am iti fynghadw i oddiwrth beryglon y nôs aeth heibio, ym mha un y gallaswn huno hûn marwolaeth, etto Tydi a adnewyddaist fy nerth corphorol â gorphwystra cyssurus, ac a'm cyfodais• i fynu i welled goleuni diwrnod arall i rodio ger dy fron di in nhir y rhai byw Ynoti O Arglwydd yr wyfi in byw in symud ac in bod, ac iti y mae i mi ddiolch am holl gyssurus drugareddau fy ⟨p. 57⟩mywyd, y rhai sydd amlach nag y gallwyf eu rhifo. O na bay i gyfoeth dy ddaioni, a'th ddioddefgarwch a'th her-ymaros fy nhywys i edifeirwch. Arglwydd darostwng fynghalon oherwydd na wneuthum â thy in ôl maintioli y trugareddau a dderbyniais oddiwrthiti, canys bum anghofus amdanat ti ac anufydd ith sanctaidd gyfreithiau, pechais in dy olwg di, a gwneuthum fy hun in annheilwng i'm galw in blentyn iti, ac i dderbyn y gronyn lleiaf o ddaioni oddiwrthit ti.