B01524:145
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Athr. 2. Addewid Duw ỿw, ỿ caiff yr annuwiol fyw os gwnânt and troy; fell troy in ddiffûant ac in hollawl.
Athr. 2. ADdewid Duw ỿw, ỿ caiff yr annuwiol fyw os gwnânt ond troi; fel troi yn ddiffûant ac yn hollawl.
Mae 'r Arglwydd yma in cyhoedd gyfaddau may dyma 'r hyn y mae efe in ymhoffi ynddo, bod ir annuwiol Droi a Byw. Mae 'r nefoedd gwedi ei gwneuthur mor siccr ir Dychweledic, ac yw uffern ir annychweledic. Trowch a Byw fyddwch, sydd wirionedd cyn siccred, a Throwch neu meirw a fyddwch. Nid oedd Duw rwymedic i ddarpau i ni Jachawdwr nac i agoryd i ni ddrws gobaith, nac in galw i Edifarhau ⟨p. 43⟩a Throi, pan oeddym ni unwaith wedi ein taflu ein hunain ymaith trwy bechod. And efe ai gwnaeth in rhâd i fawrhau ei drugaredd; Bechaduriaid, ni chaiff neb ohonoch achos i fined adref, a dywedyd, fy mod i in pregethu i chwi anobaith. A ydym ni arferol, o gau i fynû ddrws trugaredd in eich erbyn? O na baech heb ei gau ef i fynu in eich erbyn eich hunain! A ydym ni arferol o fynegi i chwi na thrugarha Duw ddim wrthych, er i chwi droi a bôd wedi eich Sancteiddio? Pa bryd y elywsoch chwi Bregethwr in dywedyd y faith air? Chwychwi y sawl a gyferthwch ar ol Pregethwyr in Efengyl, am chwennych eich cadw allan o uffern, ac a ddywedwch i bôd in prege•hu anobaith: Mynegwch i mi os mediwch, pa bryd y clywsoch chwi erioed undyn in ei bwyll in dywedyd, nad oes ywch obaith, er i chwi edifarhau a dychwelyd! Nage: y gwir wrthwyneb yr ydym ni beunydd in ei gyhoeddi oddiwrth yr Arglwydd; y caiff pwy bynnag a ailanwyd, ac sydd trwy ffydd ac edifeirwch in dyfod in greadur newydd, fôdd in siccr in gadmedic; A ninnau ydym cyn belled oddiwrth eich perswadio i anobeithio hyn, a'n bôd ni in eich perswadio nad amhevoch mhono, Bywyd ac nid marwolaeth yw rhan gyntaf om Cennadwri ni attoch: Ein Commissiwn ni sydd i gynnyg jechydwriaeth, jechydwriaeth ddiogel; prysur, ogoneddus, dragwyddol jechydwriaeth i bob un ohonnoch;