9. Je y yr ymdrinwch a hwynt, a'i gweithredoedd hefyd, a wneuch chwi in achlysur eich pechod a'ch destryw. Os byw y maent in ofn Duw, chwi a'i casewch: Os byw â wnânt in annuwiol, chwi a'i dylynwch: Os aml yw'r annuwiol, chwi a dybiwch y gellwch eu canlyn in hyfach: Os anaml yw 'r duwiol, chwi a ymhyfewch in fwy iw dirmygu hwynt Os rhodiant in ddichlin, chwi a ddybiwch eu bôd in rhy brestl. Os syrth ûn ohonynt i brofedigaeth neulltuol, chwi â dramgwyddwch wrthynt, ac â drowch ymaith oddiwrth Sancteiddrwydd, o ran bod eraill in sanctaidd ammherphait: Megis pettych chwi in arddeledic i dory eich gyddfau, o ran darfod i ray eraill trwy fôd in ysmala dyrfu gewyn, neu yrru asgwrn oil. Os rhagrithiwr ai datcuddia ei hûn, chwi a ddywedwch, felly y maent hwy eu gyd, ac a dybiwch eich bôd eich hunain cyn onested a'r gonesta. Prin y gall Proffesswr lithro i ryw fai, and oherwydd ei fôd ef in torri ei fys, chwi a dybiwch y gellwch in hyf dory eich gwythi gwaed. Os chweru y gweinidogion in ddihocced a chwi, dywedyd a wnewch eu bód in cablu: Os mwynaidd a llêdo eraidd y llefarant, nail ai yr ydych in cyscu tanynt, neu nid oes ynoch fawr fwy teimlad, na'r meingciau yr ydych in ⟨p. 162⟩eistedd arnynt. Os amryfufeddau â ymlufeant i mewn ir Ecclwys, rhai ai derbyniant in awchus, eraill a gablant yr Athrawiaeth Gristianogawl oi plegyd hwynt, yr hon sydd bennaf in eu herbyn. A phe ceisiem ni eich tinny oddiwrth ryw hên amryfyfedd ar sydd wedi gwreiddio, a fedro haeru bôd deu-cant neu dry, neu chw•ch, neu saith o flynyddoedd mewn trwydded, chwi a frochwch os dymunir cael diwygiad cymmaint a phettych in colli eich einioes trwy hynny, ac â ddeliwch in din hên amryfusedd, tra yr ydych in croch lefain in erbyn rhai newyddian. Prin y geill ymryfon dyfu ymlhith gweinidogion yr Efengyl, na chyrchoch chwi eich marwolaeth oddiwrth hynny. Ac ni wrandewch chwi, neu or hyn lleiaf ni ufyddhewch i athrawiaeth ddiddadl neb or sawl nid ydynt in dyfod in gyhydedd ich dychymmygion chwi: y nail ni wrendu ar Weinidog am ei fôd in darllain ei bregethau, ar llall ni wrendu am nad yw in eu darllain. Y nail ni wrendo arno, oblegyd ei fod in adrodd gweddi 'r Arglwydd ar llall ni wrendu arno, am ei fôd in ei harfer. Un ni wrendu arnynt am eu bôd ar dy yr Escobion, ac un arall ni wrendu arnynt am eu bôd in eu herbyn.
9. Ie y yr ymdrinwch a hwynt, a'i gweithredoedd hefyd, a wneuch chwi yn achlysur eich pechod a'ch destryw. Os byw y maent yn ofn Duw, chwi a'i casewch: Os byw â wnânt yn annuwiol, chwi a'i dylynwch: Os aml yw'r annuwiol, chwi a dybiwch y gellwch eu canlyn yn hyfach: Os anaml yw 'r duwiol, chwi a ymhyfewch yn fwy iw dirmygu hwynt Os rhodiant yn ddichlin, chwi a ddybiwch eu bôd yn rhy brestl. Os syrth ûn ohonynt i brofedigaeth neulltuol, chwi â dramgwyddwch wrthynt, ac â drowch ymaith oddiwrth Sancteiddrwydd, o ran bod eraill yn sanctaidd ammherphait: Megis pettych chwi yn arddeledic i dorri eich gyddfau, o ran darfod i rai eraill trwy fôd yn ysmala dyrfu gewyn, neu yrru asgwrn oi le. Os rhagrithiwr ai datcuddia ei hûn, chwi a ddywedwch, felly y maent hwy eu gyd, ac a dybiwch eich bôd eich hunain cyn onested a'r gonesta. Prin y gall Proffesswr lithro i ryw fai, ond oherwydd ei fôd ef yn torri ei fys, chwi a dybiwch y gellwch yn hyf dorri eich gwythi gwaed. Os chweru y gweinidogion yn ddihocced a chwi, dywedyd a wnewch eu bód yn cablu: Os mwynaidd a llêdo eraidd y llefarant, naill ai yr ydych yn cyscu tanynt, neu nid oes ynoch fawr fwy teimlad, na'r meingciau yr ydych yn ⟨p. 162⟩eistedd arnynt. Os amryfufeddau â ymlufeant i mewn ir Ecclwys, rhai ai derbyniant yn awchus, eraill a gablant yr Athrawiaeth Gristianogawl oi plegyd hwynt, yr hon sydd bennaf yn eu herbyn. A phe ceisiem ni eich tynny oddiwrth ryw hên amryfyfedd ar sydd wedi gwreiddio, a fedro haeru bôd ddeu-cant neu dri, neu chw•ch, neu saith o flynyddoedd mewn trwydded, chwi a frochwch os dymunir cael diwygiad cymmaint a phettych yn colli eich einioes trwy hynny, ac â ddeliwch yn dynn hên amryfusedd, tra yr ydych yn croch lefain yn erbyn rhai newyddian. Prin y geill ymryfon dyfu ymlhith gweinidogion yr Efengyl, na chyrchoch chwi eich marwolaeth oddiwrth hynny. Ac ni wrandewch chwi, neu or hyn lleiaf ni ufyddhewch i athrawiaeth ddiddadl neb or sawl nid ydynt yn dyfod yn gyhydedd ich dychymmygion chwi: y naill ni wrendu ar Weinidog am ei fôd yn darllain ei bregethau, ar llall ni wrendu am nad yw yn eu darllain. Y naill ni wrendo arno, oblegyd ei fod yn adrodd gweddi 'r Arglwydd ar llall ni wrendu arno, am ei fôd yn ei harfer. Vn ni wrendu arnynt am eu bôd ar dy yr Escobion, ac un arall ni wrendu arnynt am eu bôd yn eu herbyn.