B03487:137
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 6. Beth yw priodoliaethau Duw?
Atteb. Priodoliaethau Duw ydynt Rinweddau rhagorol cyfrifedic i Dduw er cyfarwyddo ein deal ni iw ddirnad ef in well, megis Tragywyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-alluogrwydd, Doethineb, Sancteiddrwydd, Cyfiawnder, Daioni, Gwirionedd, &c.
Atteb. Priodoliaethau Duw ydynt Rinweddau rhagorol cyfrifedic i Dduw er cyfarwyddo ein deall ni iw ddirnad ef yn well, megis Tragywyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-alluogrwydd, Doethineb, Sancteiddrwydd, Cyfiawnder, Daioni, Gwirionedd, &c.
Eglurh. Er mwyn gwell yspysrwydd am Briodoliaethau Duw, creffwn fod dau faith o honynt, self Anghyfrannadwy, a chyfranadwy.
Eglurh. Er mwyn gwell yspysrwydd am Briodoliaethau Duw, creffwn fod dau fath o honynt, sef Anghyfrannadwy, a chyfranadwy.
Priodoliaethau Anghyfrannadwy sydd eiddo Duw in unic, ac ni ellir mewn môdd in y bŷd eu cyfrif hwynt i neb arall. Ynddynt hwy nid oes neb fell yr Arglwydd.