B03487:148
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Ina yr annuwiol a fyddant druenus bight: Y mae Duw in elyn tragywyddol i bechaduriaid diedifeiriol, ac y mae ganddo dân tragywyddol iw llosci hwynt ynd•o.
3. Yna yr annuwiol a fyddant druenus byth: Y mae Duw yn elyn tragywyddol i bechaduriaid diedifeiriol, ac y mae ganddo dân tragywyddol iw llosci hwynt ynd•o.
O na byddech doethion a chymodi â Duw drwy
3. Y mae y Briodoliaeth hon o'r eiddo Duw, in rhoddi cyssur i bob un ffyddlon, a'r sydd iddo ran ynGhrist. Canys gan ddarfod iddo ef megis eu mâch a'u Jachawdwr wneuthur jawn i gyfiawnder Duw drostynt hwy, ni âd cyfiawnder i Dduw ofyn jawn drachefn ganddynt hwy, y rhai a dderbyniasant ac a gyflawnasant ddyledswyddau 'r ail Cyfammod. Nid yw echwynwr, wedi iddo gael taledigaeth gan y mâch, in ceisio un drachefn gan y dyledwr. Gall credadyn o herwydd hyn dynnu cyssur oddiwrth fyfyrdod am Gyfiawnder Duw.
3. Y mae y Briodoliaeth hon o'r eiddo Duw, yn rhoddi cyssur i bob un ffyddlon, a'r sydd iddo ran ynGhrist. Canys gan ddarfod iddo ef megis eu mâch a'u Iachawdwr wneuthur iawn i gyfiawnder Duw drostynt hwy, ni âd cyfiawnder i Dduw ofyn iawn drachefn ganddynt hwy, y rhai a dderbyniasant ac a gyflawnasant ddyledswyddau 'r ail Cyfammod. Nid yw echwynwr, wedi iddo gael taledigaeth gan y mâch, yn ceisio un drachefn gan y dyledwr. Gall credadyn o herwydd hyn dynnu cyssur oddiwrth fyfyrdod am Gyfiawnder Duw.