B03487:316
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac ymddengys mor echryslon yw,
1. Wrth ei fod in hâd pob pechod. Terddiff pob math ar bechodau gwneuthurol allan o hwn, megis ac y tyfiff pob math o ŷd a phlanhigion oddiwrth eu hâd eu hun.
1. Wrth ei fod yn hâd pob pechod. Terddiff pob math ar bechodau gwneuthurol allan o hwn, megis ac y tyfiff pob math o ŷd a phlanhigion oddiwrth eu hâd eu hun.
2. Y mae in lygredigaeth oll-hawl, gan halogi din drwyddo, self ym mhob gallu o'i enaid, ac ym mhob rhan o'i gorph: ac o herwydd hynny nid oes burdeb mewn un rhan o hono.
2. Y mae yn lygredigaeth oll-hawl, gan halogi dyn drwyddo, sef ym mhob gallu o'i enaid, ac ym mhob rhan o'i gorph: ac o herwydd hynny nid oes burdeb mewn un rhan o hono.
3. Y mae in anorphwys, ac in ddibaid in tueddu ac in gyrru din i bechodau gwneuthurol: Tyst yw cwynfan yr Apostol: yr wyf in gweled deddf in fy aelodau, in gwrthryfela in erbyn deddf fy meddwl, ac in fy nghaethiwo i ddeddf pechod. Rhuf. 7.23. Ni chai efe lonydd gan y pechod hwn ynddo ei hun, eithr in oeftadol ceisiai wrthryfela in erbyn grâs. Y mae megis ffynnon o fewn dŷn in bwrw allan ddyfroedd chwerw, neu fôr diclon in bwrw allan dom, neu domen ffiaidd, o'r honey cyfyd tarth drewllyd. Y cyfryw ager o drachwantau drygsawr a dardda in oestadol allan o gallon ddrygionus din.