B03487:328
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ystyriaeth. Pan weithier grâs in yr enaid, ymgynhyrfa a gweithia llygredigaeth lawyer mwy nag o'r blaen. Math. 2.3. Ni ddarllenwn gyffroi o Jerusalem oll pan anwyd Christ. Felly pan aner Christ mewn enaid bid llygredigaeth in peri blinder, ac in gwrthryfela. Gan fod grâs a llygredigaeth in wrthwynebus iw gilidd, bid ewyllys y nail in chwennych in gross ir llall. Y mae llygredigaeth in rheoli ynghalonnau rhai dynion in ddirwystr. And nid yw grâs in rheoli ynghalon neb yma heb gael ei rwystro ⟨p. 77⟩gan lygredigaeth.
2. Ystyriaeth. Pan weithier grâs yn yr enaid, ymgynhyrfa a gweithia llygredigaeth lawer mwy nag o'r blaen. Math. 2.3. Ni ddarllenwn gyffroi o Jerusalem oll pan anwyd Christ. Felly pan aner Christ mewn enaid bydd llygredigaeth yn peri blinder, ac yn gwrthryfela. Gan fod grâs a llygredigaeth yn wrthwynebus iw gilidd, bydd ewyllys y naill yn chwennych yn groes ir llall. Y mae llygredigaeth yn rheoli ynghalonnau rhai dynion yn ddirwystr. Ond nid yw grâs yn rheoli ynghalon neb yma heb gael ei rwystro ⟨p. 77⟩gan lygredigaeth.
3. Ystyri. Nid yw Duw in gwrthod neb eisiau eu bod hwy in gwbl rid oddiwrth gynwrf llygredigaeth yma, tray byddont in ymegnio i farweiddo eu llygredigaeth fwyfwy, in ol mesur y grâs a'r gallu a dderbyniasant hwy. Nid yw efe in disgwyl ini fod in gwbl ddibechod yma, and bod ini na adawom i lygredigaeth reoli in ein cyrph marwol ni, ac na byddom gaethweision iddo i ufyddhâu iw drachwantau ef. Rhuf. 6.12.
3. Ystyri. Nid yw Duw yn gwrthod neb eisiau eu bod hwy yn gwbl rydd oddiwrth gynwrf llygredigaeth yma, tra y byddont yn ymegnio i farweiddo eu llygredigaeth fwyfwy, yn ol mesur y grâs a'r gallu a dderbyniasant hwy. Nid yw efe yn disgwyl ini fod yn gwbl ddibechod yma, ond bod ini na adawom i lygredigaeth reoli yn ein cyrph marwol ni, ac na byddom gaethweision iddo i ufyddhâu iw drachwantau ef. Rhuf. 6.12.