B03487:350
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eglurh. 1. Pechir drwy wneuthur yr hyn y mae gair Duw in ei ommedd. Dywed y gyfraith na thwng, na ddywed gelwydd, na chwennych, &c. In awr yr hwn sy'n tyngu, in dywedyd celwydd, neu 'n chwennych, neu 'n gwneuthur rhyw beth arall y mae 'r gyfraith in ei ommedd, sydd droseddwr in hynny.
Eglurh. 1. Pechir drwy wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei ommedd. Dywed y gyfraith na thwng, na ddywed gelwydd, na chwennych, &c. Yn awr yr hwn sy'n tyngu, yn dywedyd celwydd, neu 'n chwennych, neu 'n gwneuthur rhyw beth arall y mae 'r gyfraith yn ei ommedd, sydd droseddwr yn hynny.
2. Drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw in ei orchymmyn. Onid wit gelwyddwr a thyngwr, etto os wit arferol o esceuluso gweddi, a sancteiddiad y Sabbath, a dyscu dy deulu, neu ryw ddyledswydd adnabyddus arall, wrth hynny yr wit in droseddwr.
2. Drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei orchymmyn. Onid wyt gelwyddwr a thyngwr, etto os wyt arferol o esceuluso gweddi, a sancteiddiad y Sabbath, a dyscu dy deulu, neu ryw ddyledswydd adnabyddus arall, wrth hynny yr wyt yn droseddwr.
3. Drwy gyflawni dyledswyddau mewn môdd annyladwy. Y mae Duw in edrych nid in unic ar i ni wneuthur y rhan oddiallan in dyledswyddau, and ar y môdd y gwnelom hwynt hefyd. Pan weddier heb weddio in wresog, a phan wrandawer y Gair heb ei wrando in ddyfal, a phan rodder heb roi in ewyllyscar; nid hynny yw 'r gweddio a'r gwrando, na'r rhoddi, y mae Duw in ei ofyn, neu in ei dderbyn.
3. Drwy gyflawni dyledswyddau mewn môdd annyladwy. Y mae Duw yn edrych nid yn vnic ar i ni wneuthur y rhan oddiallan in dyledswyddau, ond ar y môdd y gwnelom hwynt hefyd. Pan weddier heb weddio yn wresog, a phan wrandawer y Gair heb ei wrando yn ddyfal, a phan rodder heb roi yn ewyllyscar; nid hynny yw 'r gweddio a'r gwrando, na'r rhoddi, y mae Duw yn ei ofyn, neu yn ei dderbyn.