Gof. 19. Drwy ba sawl ford y gwneir pechod?Gof. 19. Drwy ba sawl ffordd y gwneir pechod?
pp. 82–8411 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 19. Drwy ba sawl ford y gwneir pechod?
Gof. 19. Drwy ba sawl ffordd y gwneir pechod?
Atteb. Drwy dair ford: in gyntaf, wrth wneuthur yr hyn y mae cyfraith a gair Duw in ei ommedd.
Atteb. Drwy dair ffordd: yn gyntaf, wrth wneuthur yr hyn y mae cyfraith a gair Duw yn ei ommedd.
In ail, drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw in ei orchymyn.
Yn ail, drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei orchymyn.
In drydydd, drwy gyflawni dyledswyddau mewn mod annyledus.
Yn drydydd, drwy gyflawni dyledswyddau mewn modd annyledus.
Eglurh. 1. Pechir drwy wneuthur yr hyn y mae gair Duw in ei ommedd. Dywed y gyfraith na thwng, na ddywed gelwydd, na chwennych, &c. In awr yr hwn sy'n tyngu, in dywedyd celwydd, neu 'n chwennych, neu 'n gwneuthur rhyw beth arall y mae 'r gyfraith in ei ommedd, sydd droseddwr in hynny.
Eglurh. 1. Pechir drwy wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei ommedd. Dywed y gyfraith na thwng, na ddywed gelwydd, na chwennych, &c. Yn awr yr hwn sy'n tyngu, yn dywedyd celwydd, neu 'n chwennych, neu 'n gwneuthur rhyw beth arall y mae 'r gyfraith yn ei ommedd, sydd droseddwr yn hynny.