B03487:413
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, gelwir Christ yma in Achubwr. Pan syrthiodd dŷn drwy ei unufydd-dod i gyflwr pechod a thrueni, a'i fod in ddiobaith ac in ddigymmorth er dim a allay efe ei hun tuag at ei adferiad, rhyngodd bôdd i Dduw o i râd râs a'i oludog drugaredd ordeinio iddo Achubwr drwy 'r hwn y byddai jechydwriaeth iw gael, ac nid drwy neb arall. Act. 4.12. Nid oes jechydwriaeth in neb arall: Canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei roddi ym mhlith dynion, drwy 'r hwn y mae in rhaid ini fod in gadwedig.
Yn gyntaf, gelwir Christ yma yn Achubwr. Pan syrthiodd dŷn drwy ei unufydd-dod i gyflwr pechod a thrueni, a'i fod yn ddiobaith ac yn ddigymmorth er dim a allai efe ei hun tuag at ei adferiad, rhyngodd bôdd i Dduw o i râd râs a'i oludog drugaredd ordeinio iddo Achubwr drwy 'r hwn y byddai iechydwriaeth iw gael, ac nid drwy neb arall. Act. 4.12. Nid oes iechydwriaeth yn neb arall: Canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei roddi ym mhlith dynion, drwy 'r hwn y mae yn rhaid ini fod yn gadwedig.
Yr ail Titl a roddir l Grist yw Arglwydd, yr hwn a roddir iddo in fynych in yr yscrythyrau, in enwedic in y Testament Newydd, a hynny am ddau achos;
Yr ail Titl a roddir l Grist yw Arglwydd, yr hwn a roddir iddo yn fynych yn yr yscrythyrau, yn enwedic yn y Testament Newydd, a hynny am ddau achos;
Self am ei fod in un â'r Tâd ac â'r yspryd Glân in ei Nature Dduwiol, ac felly in Arglwyd pob peth in y creadigaeth, Gan iddo roddi bod i bob creadur, rhaid ei fod ef in Arglwydd ar y cwbl.