B03487:426
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cymmwys. I. Y mae hyn in rhoddi ini achos i ryfeddu. Canys peth tra-anhygoel oedd i Grist gymmeryd nature ddynol at ei Dduwdod. l'r Mawrhydi Goruchaf wisco am dano garpiau ein dynol naturiaeth ni, i'r Duwdod ymgnawdoli, ydyw 'r faith beth, ac nas gall ymadrodd ei fynegi, na synwyr ei amgyffred, nac Angelion beidio â rhyfeddu w•tho, Os oedd Solomon in rhyfeddu fod in wiw gan Dduw breswylio in y Deml, yr hon oedd mor ogoneddus ac y gallai synwyr dŷn ei gwneuthur; da y gallem ni ryfeddu i Dduw breswylio in nature fregus dŷn.
Cymmwys. I. Y mae hyn yn rhoddi ini achos i ryfeddu. Canys peth tra-anhygoel oedd i Grist gymmeryd natur ddynol at ei Dduwdod. l'r Mawrhydi Goruchaf wisco am dano garpiau ein dynol naturiaeth ni, i'r Duwdod ymgnawdoli, ydyw 'r fath beth, ac nas gall ymadrodd ei fynegi, na synwyr ei amgyffred, nac Angelion beidio â rhyfeddu w•tho, Os oedd Salomon yn rhyfeddu fod yn wiw gan Dduw breswylio yn y Deml, yr hon oedd mor ogoneddus ac y gallai synwyr dŷn ei gwneuthur; da y gallem ni ryfeddu i Dduw breswylio yn natur fregus dŷn.
Buasai Christ in cymeryd ein nature ni arno ei hun, pan oedd ein rhieni cyntaf in eu diniweidrwydd, a'r creaduriaid oll in eu gwasanaethu, yna y buasai in beth iw ryfeddu. Eithr i'n Jachawdwr ddescyn o'r nef, a chymmeryd arno agwedd gwâs, sydd fell y dywed yr Apostol, in Ddirgelwch mawr i synnu wrtho.
Buasai Christ yn cymeryd ein natur ni arno ei hun, pan oedd ein rhieni cyntaf yn eu diniweidrwydd, a'r creaduriaid oll yn eu gwasanaethu, yna y buasai yn beth iw ryfeddu. Eithr i'n Iachawdwr ddescyn o'r nef, a chymmeryd arno agwedd gwâs, sydd fel y dywed yr Apostol, yn Ddirgelwch mawr i synnu wrtho.