B03487:473
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr achos Pam yr aberthodd Christ ei hun ydoedd, er mwyn gwneuthur jawn i gyfiawnder Duw dross ein pechodau ni, ac i'n cymodi ni ag ef. Yr oedd cymmaint rhinwedd in aberth Christ ar y gross, ac a fodlonodd gyfiawnder Duw in ddigonol dross bechodau ei bobl. Ymddengis mor ddigonol oedd wrth urddas ei Berson, a thrymder ei ddioddefiadau, a'i gwnaeth, er nad oeddent and dross amser, in gyfattebol mewn gwerth i'r rhai tragywyddol a haeddasem ni.
Yr achos Pam yr aberthodd Christ ei hun ydoedd, er mwyn gwneuthur iawn i gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni, ac i'n cymodi ni ag ef. Yr oedd cymmaint rhinwedd yn aberth Christ ar y groes, ac a fodlonodd gyfiawnder Duw yn ddigonol dros bechodau ei bobl. Ymddengis mor ddigonol oedd wrth urddas ei Berson, a thrymder ei ddioddefiadau, a'i gwnaeth, er nad oeddent ond dros amser, yn gyfattebol mewn gwerth i'r rhai tragywyddol a haeddasem ni.
Ein cymmodi ni â Duw sy'n deilliaw oddiwrth aberth Christ.
Lle 'r oedd anghydfod a gelyniaeth rhwng Duw a din o achos pechod, yr ydym ni in awr gymaint oll ac a wir edifarhaom, ac a gredom in Ghrist, in gymmodol â Duw drwy ei aberth ef, a'i farwolaeth.
Lle 'r oedd anghydfod a gelyniaeth rhwng Duw a dyn o achos pechod, yr ydym ni yn awr gymaint oll ac a wir edifarhaom, ac a gredom yn Ghrist, yn gymmodol â Duw drwy ei aberth ef, a'i farwolaeth.