B03487:486
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr oedd Israel in bobl enwaededic, ac in ddidoledig oddiwrth y than arall o'r bid, a chwedi eu nailltuo i Dduw.
Yr oedd Israel yn bobl enwaededic, ac yn ddidoledig oddiwrth y than arall o'r byd, a chwedi eu nailltuo i Dduw.
Bid ditheu in ddŷn enwaededig in dy gallon, wedi carthu ymaith dy aflendid naturiol: a bid in ddidoledig, wedi dy neilltuo dy hun oddiwrth ffyrdd a moddion ⟨p. 109⟩drwg y bid pechadurus hwn, ac ymroddi i gyfraith dy Dduw, ac yna y biddy un o Israel Duw, a bid Christ in offeiriad iti, je iti. Nac ymghyfeillach â'r bid aflan dienwaededig, ac na ddilyn ei arferion in cyflawni chwantau 'r cnawd a'r meddwl, dan ryfygu y bodlona Christ am dy bechodau di, er iti barhau mewn anufydddod. Ni bid Christ offeiriad ac ni wnaiff jawn dross y rhai a ant ym mlaen rhagddynt in eu pechodau gydar bid drygionus hwn. Am hynny tired allan o honynt, ac ymneilltua oddiwrh eu ffyrdd annuwiol hwynt, ac Efe a'th dderbyn di, ac a ymddengis ger bron Duw drosoti.
Bydd ditheu yn ddŷn enwaededig yn dy galon, wedi carthu ymaith dy aflendid naturiol: a bydd yn ddidoledig, wedi dy neilltuo dy hun oddiwrth ffyrdd a moddion ⟨p. 109⟩drwg y byd pechadurus hwn, ac ymroddi i gyfraith dy Dduw, ac yna y byddi un o Israel Duw, a bydd Christ yn offeiriad iti, ie iti. Nac ymghyfeillach â'r byd aflan dienwaededig, ac na ddilyn ei arferion yn cyflawni chwantau 'r cnawd a'r meddwl, dan ryfygu y bodlona Christ am dy bechodau di, er iti barhau mewn anufydddod. Ni bydd Christ offeiriad ac ni wnaiff iawn dros y rhai a ant ym mlaen rhagddynt yn eu pechodau gydar byd drygionus hwn. Am hynny tyred allan o honynt, ac ymneilltua oddiwrh eu ffyrdd annuwiol hwynt, ac Efe a'th dderbyn di, ac a ymddengis ger bron Duw drosoti.