B03487:60
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Rhai sydd ddynion di-dduw mewn opiniwn, gan feddwl in ysmala nad oes Duw. Wedi iddynt hwy ymroddi i gyflawni eu ffiaidd drachwantau, fell na rwystrer hwynt in y rhydd-did a• arferant i wneuthur pob math ar ddrygioni, ceisiant eu cymell eu hunain i dybied nad oes Duw. A thrwy gyfiawn farnedigaeth Duw arnynt, maent in fynych heb feddyliau na chrediniaeth am Dduw, a chwedi eu rhoddi i fynu i feddwl anghymeradwy, ac i gydwybod seriedig, yr hyn yw'r farn drymmaf a all ddigwydd i ddŷn yma.
1. Rhai sydd ddynion di-dduw mewn opiniwn, gan feddwl yn ysmala nad oes Duw. Wedi iddynt hwy ymroddi i gyflawni eu ffiaidd drachwantau, fel na rwystrer hwynt yn y rhydd-did a• arferant i wneuthur pob math ar ddrygioni, ceisiant eu cymell eu hunain i dybied nad oes Duw. A thrwy gyfiawn farnedigaeth Duw arnynt, maent yn fynych heb feddyliau na chrediniaeth am Dduw, a chwedi eu rhoddi i fynu i feddwl anghymeradwy, ac i gydwybod seriedig, yr hyn yw'r farn drymmaf a all ddigwydd i ddŷn yma.
2. Mae rhai in ddi-dduw ac in anghredadwy in eu dymuniadau; Erna lefasant rhag cywilydd y bid ddywedyd â'u genevau, nad oes Duw; Etto in eu calonnau y dymunant na bae un Duw i gymeryd dial ar eu hanwireddau. And gwybydded y cyfryw fod eu Dymuniadau hwynt i gyd in adnabyddus i Dduw, yr hwn ai geilw hwynt ryw did i roddi cyfrif am danynt.
2. Mae rhai yn ddi-dduw ac yn anghredadwy yn eu dymuniadau; Er na lefasant rhag cywilydd y byd ddywedyd â'u geneuau, nad oes Duw; Etto yn eu calonnau y dymunant na bae un Duw i gymeryd dial ar eu hanwireddau. Ond gwybydded y cyfryw fod eu Dymuniadau hwynt i gyd yn adnabyddus i Dduw, yr hwn ai geilw hwynt ryw ddydd i roddi cyfrif am danynt.