B03487:73
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, Dechreu bob diwrnod gydâ Duw; Deffro gydag ef y boreu, derchafa dy enaid at Dduw mewn gweddi a ddiolchgarwch am y gorphywystra a ganiadodd ef iti y nos aeth heibio: ac eiriolwch arno am eich cadarnhau chwi drwy ei râs fell y gogoneddoch ef in eich holl ymarweddiad drwy 'r did. Ac yno gadewch i'ch calon osod ar fyfyrfod am Dduw, ei Air, a'i weithredoedd, a'i briodoliaethau gogoneddus oni bid i feddyliau duwiol in gyntaf gymeryd lle in eich calonnau chwi, fe fydd Satan Siccr o fwrw i mewn iddynt ryw feddyliau offer, bydol, ac aflan.
Yn gyntaf, Dechreu bob diwrnod gydâ Duw; Deffro gydag ef y boreu, derchafa dy enaid at Dduw mewn gweddi a ddiolchgarwch am y gorphywystra a ganiadodd ef iti y nos aeth heibio: ac eiriolwch arno am eich cadarnhau chwi drwy ei râs fel y gogoneddoch ef yn eich holl ymarweddiad drwy 'r dydd. Ac yno gadewch i'ch calon osod ar fyfyrfod am Dduw, ei Air, a'i weithredoedd, a'i briodoliaethau gogoneddus oni bydd i feddyliau duwiol yn gyntaf gymeryd lle yn eich calonnau chwi, fe fydd Satan Siccr o fwrw i mewn iddynt ryw feddyliau ofer, bydol, ac aflan.
In ail, Rhodia gydâ Duw drwy gydawl y did. Gosodwch ef ger eich bron, ac ystyriwch eibresennoldeb ⟨p. 13⟩ef in eich cylch chwi, in eich gweled chwi pale bynnag y byddoch, a pha beth bynnag y wneloch. Yr hyn a'ch attal rhag pechu, ac a'ch annog i dduwioldeb. Pa wâs ni wnaiff ei waith in ddiwyd ac ef in gwybod fod llygad ei feistr arno ef? yr un mod pa Gristion ni chyflawna ei ddyledswyddau in gywir, pan ystyrio fod Duw in bresennol in ei gylch ef?
Yn ail, Rhodia gydâ Duw drwy gydawl y dydd. Gosodwch ef ger eich bron, ac ystyriwch eibresennoldeb ⟨p. 13⟩ef yn eich cylch chwi, yn eich gweled chwi pale bynnag y byddoch, a pha beth bynnag y wneloch. Yr hyn a'ch attal rhag pechu, ac a'ch annog i dduwioldeb. Pa wâs ni wnaiff ei waith yn ddiwyd ac ef yn gwybod fod llygad ei feistr arno ef? yr un modd pa Gristion ni chyflawna ei ddyledswyddau yn gywir, pan ystyrio fod Duw yn bresennol yn ei gylch ef?